- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
7. Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)bod cais sydd ger ei fron i benderfynu arno yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;
(b)nad yw’r datblygiad dan sylw wedi bod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; a
(c)nad oes ynghyd â’r cais datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,
mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 5 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 5(1).
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—
(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;
(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a
(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a
(b)bod y cais gwreiddiol wedi ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger ei fron yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddo gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth yn ei benderfyniad ynglŷn â chaniatâd dilynol.
(3) Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol nad yw’r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd ger ei fron eisoes yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ceisio gwybodaeth bellach yn unol â rheoliad 22(1).
9. Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—
(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;
(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a
(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a
(b)bod y cais gwreiddiol heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,
mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 5 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 5(1).
10.—(1) Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.
(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
(3) Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—
(a)o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.
(4) Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—
(a)bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu
(b)oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.
(5) At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio—
(a)mewn cysylltiad â’r datblygiad, yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu
(b)yn unol â chais dilynol,
yn ôl y digwydd.
(6) Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r caniatâd dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 diwrnod, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—
(a)yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond
(b)nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)(1).
(7) At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—
(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu
(b)yn unol â chais dilynol,
yn ôl y digwydd.
(8) Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17(6).
(9) Rhaid i berson sy’n gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol i Weinidogion Cymru gyda’r cais—
(a)y cais;
(b)pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;
(c)pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;
(d)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac
(e)yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,
ac mae paragraffau (2) i (7) o reoliad 6 yn gymwys i gais o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).
11.—(1) Pan fo cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru)(2), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
(a)ei fod yn gais AEA;
(b)bod y datblygiad dan sylw—
(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu
(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfeiriad sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac
(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,
mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 5(7).
(2) Pan fo cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu, ac yr ymddengys i Weinidogion Cymru—
(a)ei fod yn gais AEA,
(b)nad yw paragraff (1)(b) yn gymwys; ac
(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,
rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (2) o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid iddynt roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
(5) Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.
(6) Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu’n unol â pharagraff (5), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.
(7) Pan—
(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (2), a
(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 17(6),
rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.
12.—(1) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru, wrth ystyried apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) bod—
(a)y cais perthnasol yn gais AEA; a
(b)y datblygiad dan sylw—
(i)heb fod yn destun barn sgrinio na chyfarwyddyd sgrinio; neu
(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo i’r perwyl nad yw’n ddatblygiad AEA; ac
(c)y cais perthnasol heb gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,
mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai’r apêl yn gais a wnaed gan yr apelydd yn unol â rheoliad 5(7).
(2) Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl ac mae cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r cais perthnasol yn gais AEA ac yr ymddengys i’r arolygydd y gallai fod yn gais o’r fath, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw i Weinidogion Cymru ac ni chaiff benderfynu ar yr apêl cyn y gwneir cyfarwyddyd sgrinio, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.
(3) Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys i gwestiwn a atgyfeirir o dan baragraff (2) fel pe bai atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw yn gais a wneir gan yr apelydd yn unol â rheoliad 5(7).
(4) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid iddynt roi gwybod i’r apelydd am unrhyw berson o’r fath.
(6) Caiff apelydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (4), gadarnhau i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.
(7) Os nad yw’r apelydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (6), nid oes gan Weinidogion Cymru, na’r arolygydd pan fo hynny’n berthnasol, ddyletswydd i ymdrin â’r apêl; ac ar ddiwedd y 21 diwrnod, rhaid i Weinidogion Cymru, neu’r arolygydd, hysbysu’r apelydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ar yr apêl.
(8) Pan—
(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (4), a
(b)nad yw’r apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17(6),
rhaid i Weinidogion Cymru neu, pan fo hynny’n berthnasol, yr arolygydd benderfynu ar yr apêl dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.
Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf 1991, adran 17(2); Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 43(2); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 121 ac Atodlen 12, paragraffau 1 ac 11 ac adran 123(1) a (3); Deddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 196(4) ac Atodlen 10, paragraffau 1 a 3, adran 197 ac Atodlen 11, paragraffau 1 a 2; Deddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), adran 1(2) ac Atodlen 1, paragraffau 1 ac 8; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adrannau 45 a 46; a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 3. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, adran 32, Atodlen 7, paragraff 18; Deddf Seilwaith 2015 (p. 7), adran 30(1) ac Atodlen 4, Rhan 2, paragraffau 2 ac 11(a), a gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 2. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys