- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
11.—(1) Pan fo cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru)(1), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
(a)ei fod yn gais AEA;
(b)bod y datblygiad dan sylw—
(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu
(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfeiriad sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac
(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,
mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 5(7).
(2) Pan fo cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu, ac yr ymddengys i Weinidogion Cymru—
(a)ei fod yn gais AEA,
(b)nad yw paragraff (1)(b) yn gymwys; ac
(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,
rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (2) o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid iddynt roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
(5) Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.
(6) Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu’n unol â pharagraff (5), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.
(7) Pan—
(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (2), a
(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 17(6),
rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.
Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, adran 32, Atodlen 7, paragraff 18; Deddf Seilwaith 2015 (p. 7), adran 30(1) ac Atodlen 4, Rhan 2, paragraffau 2 ac 11(a), a gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 2. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys