xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
23.—(1) Pan fo manylion am gais cynllunio neu gais dilynol yn cael eu gosod yn Rhan 1 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod copi yn cael eu gosod yn y Rhan honno hefyd o unrhyw—
(a)barn sgrinio;
(b)cyfarwyddyd sgrinio;
(c)barn gwmpasu;
(d)cyfarwyddyd cwmpasu;
(e)hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 10(1), 11(2) neu 12(4);
(f)cyfarwyddyd o dan reoliad 4(4);
(g)datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;
(h)datganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag unrhyw rai o’r uchod.
(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu; neu
(b)yn cael cais o dan reoliad 13(1), neu 14(1), copi o gyfarwyddyd sgrinio, cyfarwyddyd cwmpasu, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 4(4) cyn y gwneir cais am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol ar gyfer y datblygiad o dan sylw,
rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cais neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n mynd ynghyd ag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol o’r gofrestr honno).
(3) Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael yn y modd hwn am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y gosodir hwy ar y gofrestr.