- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
42.—(1) Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi, fabwysiadu barn sgrinio.
(2) Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda’r copi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 42”) y mae’n rhaid iddo—
(a)cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1) a’r datganiad sy’n ofynnol gan reoliad 4(7); a
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990(1) gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.
(3) Rhaid i’r awdurdod a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 42 anfon copi ohono i—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)yr ymgynghoreion; ac
(c)unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 42.
(4) Pan fo awdurdod yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 42 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon iddynt.
Diwygiwyd adran 174 gan adran 6(1) o Ddeddf 1991 a pharagraff 22 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adran 46; a chan O.S 2003/956. Gweler hefyd adran 177(5) a ddiwygiwyd gan baragraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys