- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 2(1)
1. Yn y tabl isod—
mae “arwynebedd gwaith” (“area of the works”) yn cynnwys unrhyw arwynebedd lle mae aparatws, cyfarpar, peiriannau, deunyddiau, offer, tomen rwbel neu gyfleusterau eraill neu storfeydd y mae eu hangen ar gyfer adeiladu neu osod;
ystyr “arwynebedd llawr” (“floorspace”) yw arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau.
mae i “dyfroedd a reolir” yr un ystyr ag a roddir i “controlled waters” yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(1).
2. Mae’r tabl isod yn nodi disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddiben dosbarthu datblygiad yn ddatblygiad Atodlen 2.
Colofn 1 Disgrifiad o ddatblygiad | Colofn 2 Trothwyon a meini prawf cymwys |
---|---|
Cynnal datblygiad ar gyfer darparu unrhyw un o’r canlynol— | |
1 Amaethyddiaeth a dyframaethu | |
(a) Prosiectau ar gyfer defnyddio tir heb ei drin neu arwynebau lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys; | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar. |
(b) Prosiectau rheoli dŵr ar gyfer amaethyddiaeth, gan gynnwys prosiectau dyfrhau a draenio tir; | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(c) Gosodiadau da byw dwys (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1); | Mae’r arwynebedd llawr newydd yn fwy na 500 metr sgwâr. |
(d) Ffermio pysgod dwys; | Mae’r gosodiad a gyfyd o’r datblygiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 10 tunnell o bwysau pysgod marw y flwyddyn. |
(e) Adennill tir o’r môr. | Pob datblygiad. |
2 Diwydiant echdynnol | |
(a) Chwareli, cloddio glo brig ac echdynnu mawn (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1); (b) Cloddio o dan y ddaear; | Pob datblygiad heblaw adeiladu adeiladau neu adeileddau ategol eraill lle nad yw’r arwyneb llawr yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
(c) Echdynnu mwynau drwy garthu afonol neu forol; | Pob datblygiad. |
(d) Driliadau dwfn, yn enwedig— (i) drilio geothermol; (ii) drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear; (iii) drilio ar gyfer cyflenwadau dŵr; ac eithrio driliadau ar gyfer ymchwilio i sefydlogrwydd y pridd. | (i) Mewn perthynas ag unrhyw fath o ddrilio, mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu (ii) mewn perthynas â drilio geothermol a drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear, mae’r drilio o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir. |
(e) Gosodiadau diwydiannol ar yr wyneb ar gyfer echdynnu glo, petrolewm, nwy a mwynau naturiol, yn ogystal â siâl bitwminaidd. | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar. |
3 Diwydiant ynni | |
(a) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu trydan, stêm a dŵr poeth (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1); | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar. |
(b) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cludo nwy, stêm a dŵr poeth; | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(c) Storio nwy naturiol ar yr wyneb; (d) Storio nwyon hylosg o dan y ddaear; (e) Storio tanwydd ffosil ar yr wyneb; | (i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd yn fwy na 500 metr sgwâr; neu (ii) adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd sydd i’w leoli o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir. |
(f) Cynhyrchu brics o lo a lignit ar raddfa ddiwydiannol; | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
(g) Gosodiadau ar gyfer prosesu a storio gwastraff ymbelydrol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); | (i) Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr; neu (ii) bydd yn ofynnol i’r gosodiad sy’n deillio o’r datblygiad gael trwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(2) mewn perthynas â gweithgaredd sylweddau ymbelydrol a ddisgrifir ym mharagraff 11(2)(b), (2)(c) neu (4) o Ran 2 o Atodlen 23 i’r Rheoliadau hynny, neu amrywiad o drwydded o’r fath. |
(h) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu ynni hydrodrydanol; | Mae’r gosodiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 0.5 megawat. |
(i) Gosodiadau ar gyfer defnyddio pŵer y gwynt er mwyn cynhyrchu ynni (ffermydd gwynt). | (i) Mae’r datblygiad yn golygu gosod mwy na 2 dyrbin; neu (ii) mae uchder canol unrhyw dyrbin neu uchder unrhyw adeiledd arall yn fwy na 15 metr. |
(j) Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddiben storio daearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1. | Pob datblygiad. |
4 Cynhyrchu a phrosesu metelau | |
(a) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu haearn crai neu ddur (prif ymdoddiad neu ymdoddiad eilaidd) gan gynnwys castio parhaus; (b) Gosodiadau ar gyfer prosesu metelau fferrus— (i) melinau rholio poeth; (ii) gofaniaeth gyda morthwylion; (iii) araenu gyda haenau metel ymdoddedig amddiffynnol. (c) Ffowndrïau metel fferrus; (d) Gosodiadau ar gyfer toddi, gan gynnwys aloieiddio, metelau anfferrus, ac eithrio metelau gwerthfawr, gan gynnwys cynhyrchion wedi eu hadfer, (coethi, castio ffowndri, etc.); (e) Gosodiadau ar gyfer trin arwynebedd metelau a deunyddiau plastig drwy ddefnyddio proses electrolytig neu gemegol; (f) Gweithgynhyrchu a chydosod cerbydau modur a gweithgynhyrchu peiriannau cerbydau modur; (g) Ierdydd llongau; (h) Gosodiadau ar gyfer adeiladu a thrwsio awyrennau; (i) Gweithgynhyrchu offer rheilffordd; (j) Swagio gyda ffrwydron; (k) Gosodiadau ar gyfer rhostio a sintro mwynau metelig. | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
5 Diwydiant mwynol | |
(a) Ffyrnau golosg (distyllu glo sych); (b) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sment; (c) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu asbestos a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n seiliedig ar asbestos (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); (d) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu gwydr gan gynnwys gwydrffibr; (e) Gosodiadau ar gyfer mwyndoddi sylweddau mwynol gan gynnwys cynhyrchu ffibrau mwynol; (f) Gweithgynhyrchu cynhyrchion ceramig drwy losgi, yn enwedig teils to, briciau, briciau gwrthsafol, teils, crochenwaith caled neu borslen. | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
6 Diwydiant cemegol (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1) | |
(a) Trin rhan-gynhyrchion a chynhyrchu cemegau; (b) Cynhyrchu plaleiddiaid a chynhyrchion fferyllol, paent a farneisiau, elastomerau a pherocsidau; | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr |
(c) Cyfleusterau storio ar gyfer petrolewm, cynhyrchion petrocemegol a chemegol. | (i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad neu strwythur newydd yn fwy na 0.05 hectar; neu (ii) bydd mwy na 200 tunnell o betrolewm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol yn cael eu storio ar unrhyw un adeg. |
7 Diwydiant bwyd | |
(a) Gweithgynhyrchu olew a braster llysiau ac anifeiliaid; (b) Pacio a chanio cynhyrchion anifeiliaid a llysiau; (c) Gweithgynhyrchu cynnyrch llaeth; (d) Bragu a bragio; (e) Gweithgynhyrchu melysion a surop; (f) Gosodiadau ar gyfer cigydda anifeiliaid; (g) Gosodiadau gweithgynhyrchu startsh diwydiannol; (h) Ffatrïoedd pysg mâl ac olew pysgod; (i) Ffatrïoedd siwgr. | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
8 Diwydiannau tecstil, lledr, pren a phapur | |
(a) Gwaith diwydiannol ar gyfer cynhyrchu papur a bwrdd (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1); (b) Gweithfeydd ar gyfer rhagdriniaeth (gweithrediadau megis golchi, cannu, sgleinio) neu liwio ffibrau neu decstilau; (c) Gweithfeydd ar gyfer trin lledr a chroen; (d) Gosodiadau prosesu a chynhyrchu seliwlos. | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
9. Y diwydiant rwber | |
Gweithgynhyrchu a thrin cynhyrchion sy’n seiliedig ar elastomer. | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
10. Prosiectau seilwaith | |
(a) Prosiectau datblygu ystad ddiwydiannol; | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 5 hectar. |
(b) Prosiectau datblygu trefol, gan gynnwys adeiladu canolfannau siopa a meysydd parcio, stadiymau chwaraeon, canolfannau hamdden a sinemâu aml-sgrîn; | (i) Mae’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad trefol nad yw’n ddatblygiad tai annedd; neu (ii) mae’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu (iii) mae arwynebedd cyffredinol y datblygiad yn fwy na 5 hectar. |
(c) Adeiladu cyfleusterau trawslwytho rhyngfoddol a therfynellau rhyngfoddol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar. |
(d) Adeiladu rheilffyrdd (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1); | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(e) Adeiladu meysydd glanio (oni bai bod hynny wedi ei gynnwys yn Atodlen 1); | (i) Mae’r datblygiad yn cynnwys estyniad i redfa; neu (ii) mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(f) Adeiladu ffyrdd (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(g) Adeiladu harbyrau a gosodiadau porthladd gan gynnwys harbyrau pysgota (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(h) Adeiladu dyfrffordd fewndirol nad ydyw wedi ei chynnwys yn Atodlen 1, gwaith camlesu a lleddfu llifogydd; (i) Argloddiau a gosodiadau eraill sydd wedi eu cynllunio i ddal dŵr neu ei storio yn yr hir dymor (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); (j)Tramffyrdd, rheilffyrdd uwch ben a thanddaearol, rheilffyrdd crog neu reilffyrdd tebyg o fath penodol, a ddefnyddir i gludo teithwyr yn unig neu’n bennaf; | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(k) Gosodiadau piblinellau olew a nwy a phiblinellau i gludo ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); (l) Gosodiadau traphontydd pellter hir; | (i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu, (ii) yn achos piblinell nwy, bod gan y gosodiad bwysedd cynllun gweithredu sy’n fwy na medrydd 7 bar. |
(m) Gwaith arfordirol er mwyn mynd i’r afael ag erydiad a gwaith morol a all addasu’r arfordir drwy adeiladu, er enghraifft argloddiau, morgloddiau, glanfeydd a gwaith arall sy’n amddiffyn rhag y môr, ac eithrio cynnal a chadw ac ailadeiladu gwaith o’r fath; | Pob datblygiad. |
(n) Cynlluniau tynnu dŵr daear ac ail-lenwi dŵr daear artiffisial nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1; (o) Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr rhwng basnau afonydd nad ydyw wedi ei gynnwys yn Atodlen 1; | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(p) Mannau gwasanaeth traffyrdd. | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy na 0.5 hectar. |
11 Prosiectau eraill | |
(a) Traciau rasio a phrofi cerbydau modur parhaol; | Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar. |
(b) Gosodiadau ar gyfer cael gwared â gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); | (i) Mae’r gwarediad yn digwydd drwy losgi; neu (ii) mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar; neu (iii) bydd y gosodiad yn cael ei leoli o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir. |
(c) Gweithfeydd trin dŵr gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1); | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
(d) Safleoedd gwaddodi llaid; (e) Storio haearn sgrap, gan gynnwys cerbydau sgrap; | (i) Mae arwynebedd y gwaddod neu storio yn fwy na 0.5 hectar; neu (ii) bydd gwaddod yn cael ei wneud neu sgrap yn cael ei storio o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir. |
(f) Meinciau arbrofi ar gyfer peiriannau, tyrbinau neu adweithyddion; (g) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu ffibrau mwynol artiffisial; (h) Gosodiadau ar gyfer adfer neu ddinistrio deunyddiau ffrwydrol; (i) Ierdydd naceriaid. | Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
12 Twristiaeth a hamdden | |
(a) Llethrau sgïo, lifftiau sgïo a cheir cebl a datblygiadau cysylltiedig; | (i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu (ii) mae uchder unrhyw adeilad neu adeiledd arall yn fwy na 15 metr. |
(b) Marinas; | Mae arwynebedd y dŵr amgaeedig yn fwy na 1,000 metr sgwâr. |
(c) Pentrefi gwyliau a chyfadeiladau gwestai y tu allan i ardaloedd trefol a datblygiadau cysylltiedig; (d) Parciau thema; | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar. |
(e) Meysydd carafanau a safleoedd gwersylla parhaol; | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar. |
(f) Cyrsiau golff a datblygiadau cysylltiedig. | Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar. |
13 Newidiadau ac estyniadau | |
(a) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir yn Atodlen 1 (heblaw newid neu estyniad sy’n dod o fewn paragraff 23 o’r Atodlen honno) pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes. | Gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd. |
(b) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir ym mharagraffau 1 i 12 o golofn 1 o’r tabl hwn, pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes. | (a) Bodlonir neu rhagorir ar y trothwyon a’r meini prawf yn y rhan gyfatebol o Golofn 2 o’r tabl hwn sy’n gymwys i’r datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir; a (b) mewn achos o’r fath gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd. |
(c) Datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1 a wneir ar gyfer datblygu a phrofi dulliau neu gynhyrchion newydd yn unig neu’n bennaf ac nad ydyw wedi ei ddefnyddio am fwy na dwy flynedd. | Pob datblygiad. |
1991 p. 57. Gweler adran 104.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys