xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 639 (Cy. 175)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

Gwnaed

12 Gorffennaf 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Gorffennaf 2016

Yn dod i rym

2 Awst 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriadau at ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/2009(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(4) o’r Ddeddf honno.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Awst 2016.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “gofyniad UE penodedig” (“specified EU requirement”) yw darpariaeth yn Rheoliad yr UE a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda’r darpariaethau yng ngholofn 2;

ystyr “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/2009.

(2Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf wedi eu neilltuo i awdurdod iechyd porthladd drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod iechyd porthladd y maent wedi eu neilltuo iddo.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriad at Erthygl yn Rheoliad yr UE, neu Atodiad iddo.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn Rheoliad yr UE sydd wedi ei chynnwys yn y tabl yn Atodlen 1, ac eithrio cyfeiriad at Erthygl 1(1), yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Gorfodi

3.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

4.—(1Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2.

(2Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(3Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.

(4Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys i hysbysiad gwella a gyflwynir mewn perthynas â gofyniad UE penodedig, gyda’r addasiadau (yn achos adran 37(1), (5) a (6)) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2.

(5Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys i hysbysiad gwella a gyflwynir mewn perthynas â gofyniad UE penodedig, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2.

(6Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) yn gymwys mewn perthynas â gorfodi gofyniad UE penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, i’r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac sydd wedi eu haddasu ganddynt.

(7Y darpariaethau o’r Ddeddf a bennir at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(e)adran 29 (caffael samplau);

(f)adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd);

(g)adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);

(h)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol);

(i)adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);

(j)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);

ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.

Dirymu

5.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007(7);

(b)rheoliadau 26 a 27 o Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(8);

(c)Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010(9);

(d)rheoliad 3 o Reoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014(10).

Diwygiadau i offerynnau statudol

6.  Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

12 Gorffennaf 2016

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Gofynion UE penodedig

Colofn 1

Darpariaeth benodedig yn Rheoliad yr UE

Colofn 2

Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gyda’r ddarpariaeth benodedig yn Rheoliad yr UE

Erthygl 4(2) (gofyniad i fwyd perthnasol gael ei ragbecynnu)Erthyglau 1(1) a 4(1)
Erthygl 9(1) (gofyniad i gyfansoddiad bwyd fod yn briodol ac yn addas o ran maeth)Erthyglau 1(1), 4(1) a 9(3)
Erthygl 9(2) (gwahardd sylweddau mewn meintiau peryglus)Erthyglau 1(1) a 4(1)
Erthygl 9(5) (gofynion o ran labelu, cyflwyno a hysbysebu bwyd perthnasol)Erthyglau 1(1), 4(1) a 9(6)
Erthygl 10 (gofynion ychwanegol ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)Erthygl 4(1)

ATODLEN 2Addasu darpariaethau’r Ddeddf

Rheoliad 4(1)

RHAN 1Addasu adran 10

1.  Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified EU requirement, or has placed food on the market that does not comply with a specified EU requirement, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply, or as the case may be, that the food does not comply with the specified EU requirement;

(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

2.  Nid yw adran 10(3) yn gymwys.

3.  Ar ôl adran 10(3) mewnosoder—

(4) In this section “specified EU requirement” has the meaning given to that term in regulation 2(1) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016.

Rheoliad 4(2)

RHAN 2Addasu adran 32

4.  Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of a specified EU requirement; and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of such a requirement;.

5.  Nid yw adran 32(9) yn gymwys.

6.  Ar ôl adran 32(9) mewnosoder—

(10) In this section “specified EU requirement” has the meaning given to that term in regulation 2(1) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016.

Rheoliad 4(3)

RHAN 3Addasu adran 35

7.  Yn adran 35 (cosbi troseddau), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 4(1) of the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016, is liable, on summary conviction, to a fine.

Rheoliad 4(4)

RHAN 4Addasu adran 37

8.  Yn lle adran 37(1) (apelau) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 4(1) of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Food for Specific Groups (Information and Compositional Requirements) (Wales) Regulations 2016, may appeal to the magistrates’ court.

9.  Yn lle adran 37(5) rhodder—

(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—

(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)the period specified in the improvement notice,

whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.

10.  Yn adran 37(6)—

(a)yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; a

(b)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Rheoliad 4(5)

RHAN 5Addasu adran 39

11.  Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) hepgorer “for want of prosecution”.

Rheoliad 6

ATODLEN 3Diwygiadau i offerynnau statudol

Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997

1.  Mae Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 1(2) yn lle’r diffiniad o “relevant food” rhodder—

“relevant food” means specially formulated food intended for use in energy-restricted diets for weight reduction, being food which complies with the compositional requirements in Schedule 1 and which, when used as instructed by the manufacturer, replaces the whole of the total daily diet;;

(b)yn lle rheoliad 2 rhodder—

Name of the food and compositional requirements

2.(1) No person shall sell any relevant food under any name other than “total diet replacement for weight control” in the case of products intended as a replacement for the whole of the daily diet.

(2) No person shall sell any food in the labelling of which the name “total diet replacement for weight control” is used unless that food is relevant food.

(3) Nothing in paragraph (1) prevents the use of the words “amnewidiad deiet cyflawn ar gyfer rheoli pwysau” in addition to the words “total diet replacement for weight control”.

(4) Nothing in paragraphs (1) or (3) prevents the use of equivalent words in any other language in addition to Welsh and English.;

(c)yn rheoliad 3(e) mewnosoder “and” ar ôl “adequate daily fluid intake;”;

(d)yn rheoliad 3(f) yn lle “medical advice; and” rhodder “medical advice.”;

(e)hepgorer rheoliad 3(g);

(f)yn rheoliad 5 yn lle “regulation 2(1)(a)” rhodder “regulation 2(1)”;

(g)ar ôl rheoliad 6, mewnosoder—

Application of the improvement notice provisions of the Act

6A.(1) Section 10(1) and (2) of the Act (improvement notices) applies, with the modification (in the case of section 10(1)) specified in Part 1 of Schedule 3, for the purposes of—

(a)enabling an improvement notice to be served on a person requiring the person to secure compliance with any of the requirements specified in regulation 2; and

(b)making the failure to comply with a notice referred to in subparagraph (a) an offence.

(2) Section 32(1) to (8) of the Act (powers of entry) applies, with the modification (in the case of section 32(1)) specified in Part 2 of Schedule 3, for the purposes of enabling an authorised officer of an enforcement authority—

(a)to exercise a power of entry to ascertain whether food that does not comply with one or more of the requirements specified in regulation 2 is, or has been, sold; and

(b)to exercise a power of entry to ascertain whether there is any evidence of any contravention of regulation 2.

(3) Section 35 of the Act (punishment of offences) applies, with the modification specified in Part 3 of Schedule 3, for the purpose of specifying the punishment of an offence committed under paragraph (1)(b).

(4) Section 37(1), (3), (5) and (6) of the Act (appeals) applies, with the modification (in the case of section 37(1), (5) and (6)) specified in Part 4 of Schedule 3, for the purpose of enabling a decision to serve a notice referred to in paragraph (1)(a) to be appealed.

(5) Section 39 of the Act (appeals against improvement notices) applies, with the modification (in the case of section 39(3)) specified in Part 5 of Schedule 3, for the purpose of dealing with appeals against a decision to serve a notice referred to in paragraph (1)(a).;

(h)mae Atodlen 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(i)ym mharagraff 1.1 yn lle “regulation 2(1)(a)” rhodder “regulation 2(1)”;

(ii)hepgorer paragraff 1.2;

(iii)ym mharagraff 2.1 yn lle “regulation 2(1)(a) and (b)” rhodder “regulation 2(1)”, ac yn lle “regulation 2(1)(a)” rhodder “regulation 2(1)”;

(iv)ym mharagraff 3.2 yn lle “regulation 2(1)(a)” rhodder “regulation 2(1)”;

(v)hepgorer paragraff 3.3;

(vi)ym mharagraff 4 yn lle “regulation 2(1)(a)” rhodder “regulation 2(1)”;

(vii)ym mharagraff 5.1 yn lle “regulation 2(1)(a)” rhodder “regulation 2(1)”; ac

(viii)hepgorer paragraff 5.2; ac

(i)ar ôl Atodlen 2, mewnosoder—

Regulation 6A

SCHEDULE 3Modification of the improvement notice provisions of the Act

PART 1Modification of section 10(1)

1.  For section 10(1) (improvement notices) substitute—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for suspecting that a person is failing to comply with regulation 2 of the Foods Intended for Use in Energy Restricted Diets for Weight Reduction Regulations 1997, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

PART 2Modification of section 32(1)

2.  For paragraphs (a) to (c) of section 32(1) (powers of entry) substitute—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of regulation 2 of the Foods Intended for Use in Energy Restricted Diets for Weight Reduction Regulations 1997; and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that regulation;.

PART 3Modification of section 35

3.  In section 35 (punishment of offences), after subsection (1), insert—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 6A(1) of the Foods Intended for Use in Energy Restricted Diets for Weight Reduction Regulations 1997, is liable, on summary conviction, to a fine.

PART 4Modification of section 37(1), (5) and (6)

4.  For section 37(1) (appeals) substitute—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 6A(1) of, and Part 1 of Schedule 3 to, the Foods Intended for Use in Energy Restricted Diets for Weight Reduction Regulations 1997, may apply to the magistrates’ court.

5.  For section 37(5) substitute—

(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—

(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)the period specified in the improvement notice,

whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.

6.  In section 37(6)—

(a)for “(3) or (4)” substitute “(1)”; and

(b)in paragraph (a), omit “or to the sheriff”.

PART 5Modification of section 39(3)

7.  In section 39(3) (appeals against improvement notices), omit “for want of prosecution”.

Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

2.  Mae Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2, ar ddiwedd y diffiniad o “gwerthu”, mewnosoder “, ac mae “cael ei werthu” (“sold”) i gael ei ddehongli yn unol â hynny”.

(b)ar ôl rheoliad 5, mewnosoder—

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

5A.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sicrhau cydymffurfedd â rheoliad 3(1); a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 3(1) yn cael neu wedi cael ei werthu; a

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod rheoliad 3(1) wedi ei dorri.

(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan baragraff (1)(b).

(4) Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 37(1), (5) a (6)) a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen, at ddiben galluogi apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 39(3)) a bennir yn Rhan 5 o’r Atodlen, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).; ac

(c)ar ddiwedd y Rheoliadau, mewnosoder—

Rheoliad 5A

ATODLENAddasu darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for suspecting that a person is failing to comply with regulation 3(1) of the Medical Food (Wales) Regulations 2000, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

RHAN 2Addasu adran 32(1)

2.  Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of regulation 3(1) of the Medical Food (Wales) Regulations 2000; and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that regulation;.

RHAN 3Addasu adran 35

3.  Yn adran 35 (cosbi troseddau), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 5A(1) of the Medical Food (Wales) Regulations 2000, is liable, on summary conviction, to a fine.

RHAN 4Addasu adran 37(1), (5) a (6)

4.  Yn lle adran 37(1) (apelau) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1) as applied and modified by regulation 5A(1) of, and Part 1 of the Schedule to, the Medical Food (Wales) Regulations 2000, may apply to the magistrates’ court.

5.  Yn lle adran 37(5) rhodder—

(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—

(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)the period specified in the improvement notice,

whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.

6.  Yn adran 37(6)—

(a)yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; a

(b)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

RHAN 5Addasu adran 39(3)

7.  Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella), hepgorer “for want of prosecution”.

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

3.  Mae Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “gwerthu”, ar ôl y geiriau “hysbysebu i’w werthu”, mewnosoder “, ac mae “cael ei werthu” (“sold”) i gael ei ddehongli yn unol â hynny”;

(b)ar ôl rheoliad 10, mewnosoder—

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

10A.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 9, at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion a bennir yn rheoliad 4; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn dramgwydd.

(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 9, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o’r gofynion a bennir yn rheoliad 4 yn cael neu wedi cael ei werthu; a

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod rheoliad 4 wedi ei dorri.

(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi tramgwyddau) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 9, at ddiben pennu’r gosb am dramgwydd a gyflawnir o dan baragraff (1)(b).

(4) Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 37(1), (5) a (6)) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 9, at ddiben galluogi apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 39(3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 9, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).; ac

(c)ar ôl Atodlen 8, mewnosoder—

Rheoliad 10A

ATODLEN 9Addasu darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for suspecting that a person is failing to comply with regulation 4 of the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

RHAN 2Addasu adran 32(1)

2.  Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of regulation 4 of the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004; and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that regulation;.

RHAN 3Addasu adran 35

3.  Yn adran 35 (cosbi tramgwyddau), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 10A(1) of the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004, is liable, on summary conviction, to a fine.

RHAN 4Addasu adran 37(1), (5) a (6)

4.  Yn lle adran 37(1) (apelau) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1) as applied and modified by regulation 10A(1) of, and Part 1 of Schedule 9 to, the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004, may apply to the magistrates’ court.

5.  Yn lle adran 37(5) rhodder—

(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—

(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)the period specified in the improvement notice,

whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.

6.  Yn adran 37(6)—

(a)yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; a

(b)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

RHAN 5Addasu adran 39(3)

7.  Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella), hepgorer “for want of prosecution”.

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

4.  Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 28, yn lle “24, 25, 26 neu 27”, rhodder “24 neu 25”;

(b)ar ôl rheoliad 28, mewnosoder—

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

28A.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion a bennir yn rheoliad 3(1) a (2); a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn dramgwydd.

(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 3 yn cael neu wedi cael ei werthu; a

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod rheoliad 3 wedi ei dorri.

(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi tramgwyddau) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen, at ddiben pennu’r gosb am dramgwydd a gyflawnir o dan baragraff (1)(b).

(4) Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 37(1), (5) a (6)) a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen, at ddiben galluogi apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 39(3)) a bennir yn Rhan 5 o’r Atodlen, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).; ac

(c)ar ddiwedd y Rheoliadau, mewnosoder—

Rheoliad 28A

ATODLENAddasu darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for suspecting that a person is failing to comply with regulation 3 of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2007, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

RHAN 2Addasu adran 32(1)

2.  Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of regulation 3 of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2007; and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that regulation;.

RHAN 3Addasu adran 35

3.  Yn adran 35 (cosbi tramgwyddau), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 28A(1) of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2007, is liable, on summary conviction, to a fine.

RHAN 4Addasu adran 37(1), (5) a (6)

4.  Yn lle adran 37(1) (apelau) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1) as applied and modified by regulation 28A(1) of, and Part 1 of the Schedule to, the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2007, may apply to the magistrates’ court.

5.  Yn lle adran 37(5) rhodder—

(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—

(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)the period specified in the improvement notice,

whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.

6.  Yn adran 37(6)—

(a)yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; a

(b)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

RHAN 5Addasu adran 39(3)

7.  Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella), hepgorer “for want of prosecution”.

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009

5.  Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)ar ôl rheoliad 3, mewnosoder—

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

3A.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sicrhau cydymffurfedd â’r darpariaethau penodedig sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 1; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn dramgwydd.

(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o’r darpariaethau penodedig sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 1 yn cael neu wedi cael ei werthu; a

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau penodedig sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 1 wedi eu torri.

(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi tramgwyddau) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am dramgwydd a gyflawnir o dan baragraff (1)(b).

(4) Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 37(1), (5) a (6)) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 39(3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).;

(b)yn enw’r Atodlen, yn lle “Yr Atodlen” rhodder “Atodlen 1”;

(c)yn lle nodyn cwr tudalen Atodlen 1 rhodder “Rheoliadau 2(1), 3(1), a 3A(1) a (2)”; a

(d)ar ôl Atodlen 1, mewnosoder—

Rheoliad 3A

ATODLEN 2Addasu darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for suspecting that a person is failing to comply with the provisions specified in Schedule 1 of the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

RHAN 2Addasu adran 32(1)

2.  Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) rhodder—

(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of the provisions specified in Schedule 1 of the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009; and

(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that regulation;.

RHAN 3Addasu adran 35

3.  Yn adran 35 (cosbi tramgwyddau), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 3A(1) of the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009, is liable, on summary conviction, to a fine.

RHAN 4Addasu adran 37(1), (5) a (6)

4.  Yn lle adran 37(1) (apelau) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1) as applied and modified by regulation 3A(1) of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Specific Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2009, may apply to the magistrates’ court.

5.  Yn lle adran 37(5) rhodder—

(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—

(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)the period specified in the improvement notice,

whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.

6.  Yn adran 37(6)—

(a)yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; a

(b)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

RHAN 5Addasu adran 39(3)

7.  Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella), hepgorer “for want of prosecution”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/2009 (OJ Rhif L 181, 29.6.2013, t. 35) (“Rheoliad (EU) 609/2013”).

Mae Rheoliad (EU) 609/2013 yn diddymu ac yn disodli cyfundrefn sy’n rheoleiddio (yn bennaf, ond heb fod yn gyfyngedig i) gofynion cyfansoddiadol a labelu y mae rhaid i grwpiau penodol o fwyd eu bodloni cyn y caiff bwyd o’r fath gael ei farchnata mewn Aelod-wladwriaethau. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 ac yn darparu ar gyfer cyfundrefn gorfodi hysbysiadau gwella ochr yn ochr â sancsiynau troseddol domestig presennol yn Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997, Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004, Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 a Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (“y Ddeddf”). Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1) o’r Ddeddf, sy’n galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n gwneud cydymffurfedd â gofyniad UE penodedig yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 yn ofynnol. Mae’r gofynion penodedig wedi eu rhestru yn Atodlen 1. Mae’r darpariaethau, fel y maent yn cael eu cymhwyso a’u haddasu, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.

Mae Atodlen 3 yn diwygio offerynnau statudol sy’n gymwys i’r maes rheoleiddio hwn i alluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n gwneud cydymffurfedd â rheoliadau perthnasol yn ofynnol. Mae’r darpariaethau, fel y maent yn cael eu cymhwyso a’u haddasu yn yr offerynnau statudol, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2009 (p. 7), O.S. 2007/1388 ac O.S. 2014/2303 (Cy. 227).

(3)

OJ Rhif L 181, 29.6.2013, t. 35.

(4)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1).

(11)

O.S. 1997/2182, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.