xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 665 (Cy. 182)

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016

Gwnaed

22 Mehefin 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Mehefin 2016

Yn dod i rym

20 Gorffennaf 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at bob un o offerynnau’r UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Gorffennaf 2016.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol—

ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y mae cymorth ariannol wedi’i roi iddo neu berson sydd wedi ymgymryd ag ymrwymiadau person o’r fath;

ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw swm a dalwyd neu sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “cymorth yr UE” (“EU assistance”) yw cymorth o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a roddwyd yn unol â Rheoliad 508/2014;

ystyr “deddfwriaeth yr UE” (“the EU legislation”) yw’r offerynnau a restrir yn yr Atodlen;

ystyr “gweithrediad” (“operation”) yw prosiect, contract, gweithred neu grŵp o brosiectau sydd:

(a)

at unrhyw un o’r dibenion a bennir yn Nheitl V o Reoliad 508/2014; a

(b)

sy’n gymwys i gael cymorth yr UE;

ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) i’w dehongli’n unol â hynny;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw lestr, lle, cerbyd, ôl-gerbyd neu gynhwysydd;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig hwnnw;

ystyr “Rheoliad 508/2014” (“Regulation 508/2014”) yw Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop(4).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Cymorth ariannol

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth ariannol i fuddiolwr mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud taliadau o gymorth ariannol, cânt wneud y cyfryw daliadau—

(a)ar y cyfryw adeg, neu yn y cyfryw randaliadau fesul pa bynnag gyfnod neu ar ba bynnag adegau y tybiant yn briodol; a

(b)yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau ynglŷn â thalu a bennir ganddynt.

Cymeradwyo gweithrediadau

4.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo gweithrediad—

(a)cael ei wneud yn y cyfryw ffurf ac ar y cyfryw amser sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru; a

(b)cynnwys y cyfryw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r gweithrediad, ac os felly, cânt wneud y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a bennir ganddynt.

(3Caiff Gweinidogion Cymru amrywio cymeradwyaeth drwy amrywio unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, neu drwy osod amodau.

(4Cyn amrywio cymeradwyaeth, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi i’r buddiolwr hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn bwriadu gwneud hynny ynghyd â datganiad o’r rhesymau;

(b)rhoi cyfle i’r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfryw amser (a bennir yn yr hysbysiad o dan is-baragraff (a)) a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)ystyried y sylwadau hynny.

Hysbysebu cymorth ariannol a hawliadau

5.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysebu’r cymorth ariannol sydd ar gael, a darparu ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer cwblhau ceisiadau.

Darparu gwybodaeth

6.—(1Rhaid i fuddiolwr ddarparu i Weinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd, sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i’r buddiolwr ddarparu’r wybodaeth honno o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.

Tystiolaeth o wariant neu weithredu

7.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o gymorth ariannol oni fodlonir hwy fod y gwariant a dynnwyd gan fuddiolwr yn briodol, neu oni fodlonir hwy fod y buddiolwr wedi cyflawni unrhyw weithredoedd sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r gweithrediad a gymeradwywyd.

(2At ddibenion paragraff (1), caiff y buddiolwr ddarparu tystiolaeth foddhaol i Weinidogion Cymru fod swm y gwariant yr hawlir cymorth ariannol ar ei gyfer wedi ei dynnu gan y buddiolwr.

Pwerau mynediad

8.—(1Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos ei awdurdod i wneud hynny, os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat—

(a)y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi, neu

(b)y mae gan y person awdurdodedig sail resymol dros gredu y deuid o hyd i ddogfennau ynddi sy’n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd,

at unrhyw un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y dibenion hynny yw—

(a)gwirio cywirdeb unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan fuddiolwr ynglŷn â’r gweithrediad a gymeradwywyd;

(b)canfod a oes unrhyw gymorth ariannol yn daladwy neu y gellir ei adennill, neu ganfod pa swm o gymorth ariannol o’r fath sy’n daladwy neu y gellir ei adennill;

(c)canfod a oes trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni;

(d)canfod rywfodd arall a yw cymorth yr UE yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn gywir; ac

(e)penderfynu a ddigwyddodd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn neu ddeddfwriaeth yr UE.

(3Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddwyd yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, roi caniatâd i berson awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre (gan gynnwys mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat) a hynny, pan fo angen, gan ddefnyddio grym rhesymol, os bodlonir yr ynad, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd ar lw—

(a)bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2); a

(b)y bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(5Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod heb warant, ac

(i)hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu

(ii)na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;

(b)bod gofyn mynd i mewn ar frys; neu

(c)bod y fangre’n wag, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(6Mae gwarant yn ddilys am dri mis o’r dyddiad y’i dyroddir.

(7Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef, a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2).

(8Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

Pwerau person awdurdodedig

9.—(1)  Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 8—

(a)arolygu’r fangre ac unrhyw ddogfen, cofnod neu gyfarpar sydd ynddi ac y byddai’n rhesymol i’r person hwnnw gredu ei bod, neu ei fod, yn ymwneud â’r gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i’r buddiolwr, yn dangos unrhyw ddogfen neu gofnod, neu’n darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy’n ymwneud â’r gweithrediad;

(c)pan gedwir unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (b) drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at ac arolygu unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r ddogfen neu’r wybodaeth honno neu â’r cofnod hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol ddangos i’r person awdurdodedig gopïau o unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth, neu ddetholion ohonynt, sy’n ymwneud â’r gweithrediad;

(e)cymryd, a chadw am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad pan fo gan y person awdurdodedig reswm dros gredu y gallai fod angen y ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu’r cofnod hwnnw, fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, a phan gedwir unrhyw ddogfen o’r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chynhyrchu mewn ffurf sydd yn caniatáu ei chludo ymaith ac yn ei gwneud yn weladwy a darllenadwy.

(2Rhaid i fuddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant buddiolwr, roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â’r materion a grybwyllir yn y rheoliad hwn.

(3Mae paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 8(7) pan fo’r person hwnnw yn gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.

(4Ni fydd person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos cyfreithiol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o’r pwerau a roddwyd i’r person awdurdodedig yn rhinwedd rheoliadau 8 ac 9, os bodlonir y llys fod y weithred wedi’i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a’i bod wedi ei gwneud gyda medrusrwydd a gofal rhesymol.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gweithrediad” (“the operation”) yw’r gweithrediad a gymeradwywyd y ceisiwyd mynediad i’r fangre yn ei gylch yn unol â rheoliad 8.

Cadw cofnodion

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfrif neu ddogfen arall ynglŷn â gweithrediad a gymeradwywyd tan ddiwedd chwe blynedd ar ôl y taliad diwethaf o gymorth ariannol a wneir iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithrediad a gymeradwywyd.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen a gymerir ymaith gan unrhyw berson a awdurdodwyd yn gyfreithlon i’w chymryd ymaith.

(3Pan fo buddiolwr, yng nghwrs arferol busnes, yn trosglwyddo’r fersiwn wreiddiol o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i’r buddiolwr gadw copi o’r ddogfen honno tan ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1).

Pwerau adennill etc.

11.—(1Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (2) pan fodlonir hwy, o ran gweithrediad a gymeradwywyd—

(a)na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ag unrhyw amod y cyfeirir ato yn rheoliad 3 neu 4;

(b)nad oedd y cais a gymeradwywyd felly o dan reoliad 4 (neu unrhyw ran ohono) yn gais (neu’n rhan) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i’w wneud;

(c)bod y buddiolwr neu gyflogai, gwas neu asiant y buddiolwr—

(i)wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan reoliad 6, 9(1)(b), 9(1)(d) neu 9(2); neu

(ii)wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater perthnasol ynglŷn â rhoi’r gymeradwyaeth, sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol;

(d)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi ei gychwyn cyn y dyddiad y rhoes Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig i hynny ddigwydd;

(e)na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymgymeriadau a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 16;

(f)bod y buddiolwr wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 10;

(g)bod natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad a gymeradwywyd wedi newid mewn modd sylweddol;

(h)nad oedd neu nad yw’r gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni’n briodol;

(i)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi cael ei ohirio, neu yn cael ei ohirio, yn afresymol, neu’n annhebygol o gael ei gwblhau;

(j)bod y cymorth ariannol yn dyblygu neu y byddai’n dyblygu cymorth a ddarparwyd neu sydd i’w ddarparu o arian a roddwyd ar gael gan—

(i)yr Undeb Ewropeaidd,

(ii)Gweinidogion Cymru, neu

(iii)corff sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;

(k)bod y buddiolwr wedi torri unrhyw ofyniad y mae’r buddiolwr yn ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddeddfwriaeth yr UE; neu

(l)bod y gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy’n gymwys o dan ddeddfwriaeth yr UE.

(2Y pwerau a roddir gan baragraff (1) yw’r canlynol—

(a)dirymu’r gymeradwyaeth o’r gweithrediad yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(b)lleihau neu atal unrhyw gymorth ariannol mewn cysylltiad â’r gweithrediad a gymeradwywyd;

(c)adennill, ar archiad, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth ariannol a dalwyd eisoes i’r buddiolwr.

(3Pan fo’r Comisiwn wedi penderfynu lleihau neu atal cymorth dros dro, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(4At ddibenion paragraff (1)(j), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os telir ef, neu os byddai’n cael ei dalu, at unrhyw un o’r un dibenion.

Adennill llog

12.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau a roddir gan reoliad 11(2)(c), cânt hefyd, ar archiad, adennill llog ar y swm sydd i’w adennill, yn ôl y gyfradd o un pwynt canran uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr mewn cysylltiad â phob diwrnod o’r cyfnod o’r diwrnod y rhoddwyd y cymorth ariannol tan y diwrnod yr adenillir y swm gan Weinidogion Cymru.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) yw—

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ymuno arni mewn trafodion i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu

(b)os oes gorchymyn mewn grym o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 1998(5), unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.

(3Mewn unrhyw achos cyfreithiol sy’n ymwneud â’r rheoliad hwn, bernir bod tystysgrif Gweinidogion Cymru sy’n datgan y gyfradd sylfaenol Banc Lloegr a oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth derfynol o’r gyfradd a oedd yn gymwys yn ystod y cyfnod penodedig, os yw’r dystysgrif yn datgan hefyd fod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o’r gyfradd honno.

Symiau sy’n daladwy i Weinidogion Cymru yn adenilladwy fel dyled

13.  Mewn unrhyw achos pan fo swm i gael ei dalu i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd camau a gymerir o dan y Rheoliadau hyn), mae’r swm hwnnw yn adenilladwy fel dyled.

Troseddau a chosbau

14.—(1Mae person yn euog o drosedd—

(a)os yw’r person hwnnw yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol gan wybod hynny, neu’n ddi-hid, er mwyn cael cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo’i hun neu i unrhyw berson arall;

(b)os yw’r person hwnnw yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol gan wybod hynny, neu’n ddi-hid, mewn perthynas ag arfer, gan Weinidogion Cymru, y pwerau a bennir yn rheoliad 11(2);

(c)os yw’r person hwnnw yn methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 9(1)(b), 9(1)(d) neu reoliad 10; neu

(d)os yw’r person hwnnw yn rhwystro’n fwriadol berson awdurdodedig (neu berson sy’n mynd gyda pherson awdurdodedig ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddyd) sy’n gweithredu i roi’r Rheoliadau hyn ar waith.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(a) neu (b) yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu’r ddau.

(3Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir cychwyn achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) o fewn y cyfnod o chwe mis o’r dyddiad y bydd tystiolaeth, sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn dod yn hysbys i’r erlynydd.

(5Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni’r drosedd.

(6Pan ddygir achos cyfreithiol at ddibenion paragraff (4)—

(a)bydd tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys i’r erlynydd, yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;

(b)bernir bod tystysgrif, sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly, wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig

15.—(1Pan—

(a)cyflawnir trosedd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol neu bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig arall; a

(b)profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol —

(i)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;

(ii)os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

(3Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

(a)rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;

(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(6); ac

(c)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(7).

(5Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.

Ymgymeriadau

16.  Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol fod buddiolwr yn rhoi pa bynnag ymgymeriadau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru yn yr achos dan sylw.

Dirymiad a darpariaethau trosiannol

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2009(8) (“Rheoliadau 2009”) wedi eu dirymu.

(2Nid yw paragraff (1) yn cael effaith ar barhau i gymhwyso Rheoliadau 2009 mewn cysylltiad â cheisiadau a gafwyd gan Weinidogion Cymru cyn 31 Rhagfyr 2015.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Mehefin 2016

Rheoliad 2

YR ATODLENDEDDFWRIAETH YR UE

1.  Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn gosod darpariaethau cyffredinol ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006(9).

2.  Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Rhagfyr 2013 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000(10).

3.  Rheoliad (EU) Rhif 1380/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Rhagfyr 2013 ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sy’n diwygio Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 1954/2003 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac yn diddymu Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 2371/2002 ac (EC) Rhif 639/2004 a Phenderfyniad y Cyngor 2004/585/EC(11).

4.  Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn diddymu Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 2328/2003, (EC) Rhif 861/2006, (EC) Rhif 1198/2006 ac (EC) Rhif 791/2007 a Rheoliad (EU) Rhif 1255/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor(12).

5.  Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 772/2014 dyddiedig 14 Gorffennaf 2014, sy’n gosod y rheolau ar ddwyster y cymorth cyhoeddus sydd i’w gymhwyso i gyfanswm y gwariant cymwys ar weithrediadau penodol a gyllidir o dan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop(13).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Yng Nghymru, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r rhaglen weithredol a sefydlwyd o dan Reoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (“Rheoliad 508/2014”) a Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau at ddibenion Teitl V o Reoliad 508/2014. Bydd y Rheoliadau hyn yn rheoleiddio’r rhaglenni a weinyddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau (“deddfwriaeth yr UE”). Mae darpariaethau deddfwriaeth yr UE yn gymwys yn uniongyrchol ac yn cael effaith uniongyrchol mewn Aelod-wladwriaeth. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu fframwaith cyfreithiol domestig ar gyfer gweithredu deddfwriaeth yr UE yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gymeradwyo ceisiadau i gael cymorth ariannol (rheoliad 4) a thalu cymorth ariannol (rheoliad 3) mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd. Ystyr “gweithrediad” yw prosiect, contract, gweithred neu grŵp o brosiectau sydd ar gyfer unrhyw rai o’r dibenion a bennir yn Nheitl V o Reoliad 508/2014 ac sy’n gymwys i gael cymorth o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” yw gweithrediad y mae Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, wedi ei gymeradwyo i gael cymorth ariannol. Mae’r Rheoliadau hefyd yn pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir dirymu cymeradwyaeth a roddwyd i weithrediad, ac atal neu adennill cymorth ariannol a dalwyd i fuddiolwr mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw (rheoliad 11).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu pwerau mynediad ac arolygu i bersonau awdurdodedig mewn perthynas â mangre y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi, neu y credir y deuir o hyd i ddogfennau ynddi sy’n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd (rheoliadau 8 a 9) (diffinnir “person awdurdodedig” yn rheoliad 2). Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd fod buddiolwyr sy’n cael cymorth ariannol yn cadw cofnodion ynglŷn â gweithrediad a gymeradwywyd am gyfnod penodedig (rheoliad 10), yn cyflenwi y cyfryw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â gweithrediad a gymeradwywyd (rheoliad 6) ac yn cynorthwyo person awdurdodedig sy’n arfer ei bwerau o dan reoliad 9. Cyn gwneud unrhyw daliadau o gymorth ariannol, caniateir ei gwneud yn ofynnol ddangos tystiolaeth fod gwariant wedi ei dynnu’n briodol (rheoliad 7).

Mae rheoliad 12 yn caniatáu i Weinidogion Cymru hawlio llog ar symiau sy’n ddyledus iddynt. Mae rheoliad 13 yn darparu bod symiau sy’n daladwy i Weinidogion Cymru yn adenilladwy fel dyled.

Mae’r Rheoliadau hyn yn creu trosedd (rheoliad 14) o wneud datganiadau anwir gan wybod hynny neu yn ddi-hid, rhwystro yn fwriadol berson awdurdodedig rhag gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn, a methu (heb esgus rhesymol) â chadw cofnodion perthnasol am y cyfnod sy’n ofynnol o dan reoliad 10.

Mae rheoliad 15 yn gymwys i droseddau a gyflawnir gan gorff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig arall. Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol fod buddiolwr yn rhoi ymgymeriad os yw Gweinidogion Cymru yn tybio bod hynny’n briodol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi ohono oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

1972 p.68 Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol2006.

(4)

OJ Rhif L 149, 20.05.2014, t. 1.

(6)

1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1), (2) a (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, Rhan 2, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10.

(7)

1980 p. 43. Diddymwyd paragraff 2(a) o Atodlen 3 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1) ac (13)(a), ac Atodlen 37, Rhan 4. Diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, Rhan 2, paragraff 51(1) ac (13)(b).

(9)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 320.

(10)

OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2015/812, OJ Rhif L 133, 29.05.2015, t. 1.

(11)

OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 22, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2015/812, OJ Rhif L 133, 29.05.2015, t.1.

(12)

OJ Rhif L 149, 20.05.2014. t. 1.

(13)

OJ Rhif L 209, 16.07.2014, t. 47.