xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 691 (Cy. 189)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

Gwnaed

28 Mehefin 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Gorffennaf 2016

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999(1) (“DARhLl 1999”) —

(a)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, sy’n briodol yn eu tyb hwy; a

(c)y cyrff neu’r personau eraill hynny sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 27(2) a (4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(2) (“DGMA 2003”) —

(a)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau gwaredu gwastraff yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy;

(b)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n ymwneud â gweithredu safleoedd tirlenwi yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy; ac

(c)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli unrhyw bersonau eraill yr effeithir arnynt sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol yn unol ag adran 8 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010(3) (“MG(C) 2010”) —

(a)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)pob awdurdod lleol; ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(4) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(5) (“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff(6).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o DCE 1972, adran 2 o DARhLl 1999 ac Atodlen 1 iddi, adrannau 11, 12, 13 a 36 o DGMA 2003 ac adrannau 5(1)(a) a (b) a (d) i (f) a 19(2) o MG(C) 2010.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

2.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff”, ar ôl y geiriau “Cyngor ar wastraff” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127(8)”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

3.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)(a)(10) (Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff), yn lle’r geiriau “Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 1357/2014” rhodder “Cyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127”.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

4.—(1Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (dehongli: Cyfarwyddebau) yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—

“the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on waste;.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011

5.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—

“the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on waste;.

Diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

6.—(1Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” ar ôl y geiriau “sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127”.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol penodol yn ymwneud â gwastraff, sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3) (“y Gyfarwyddeb Wastraff”).

Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127 dyddiedig 10 Gorffennaf 2015 sy’n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar Wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 184, 11.7.2015, t.13).

Mae rheoliadau 2, 3 a 6 yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)), Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)) a Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1014 (Cy. 152)) yn y drefn honno, drwy fynegi’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Wastraff ym mhob un o’r rheoliadau hynny fel cyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1217.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675) (“y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol”) a Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/988) (“y Rheoliadau Gwastraff”) yn y drefn honno. Er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y diwygiadau a wneir i’r offerynnau hynny gan y Rheoliadau hyn, a diwygiadau cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, mae’r un ddarpariaeth yn union wedi ei rhoi yn lle’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Wastraff yn y rheoliadau diwygiedig. Nid yw’r ddarpariaeth a amnewidir yn cyfeirio’n benodol at Gyfarwyddeb ddiwygio’r Comisiwn (UE) 2015/1227, ond effaith adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (“Deddf 1978”) yw pan fo Deddf sydd wedi ei phasio ar ôl dyddiad cychwyn yr adran honno yn cyfeirio at offeryn yr Undeb Ewropeaidd, fod y cyfeiriad, oni amlygir bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr offeryn fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Ddeddf honno i rym. Mae adran 23(1) o Ddeddf 1978 yn cymhwyso’r egwyddor honno i is-ddeddfwriaeth. O ganlyniad, effaith yr amnewidiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yw bod cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Wastraff yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a’r Rheoliadau Gwastraff yn dod yn gyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

1999 p.24. Diwygiwyd adran 2 gan adran 62(13) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) a chan O.S. 2013/755 (W. 90). Diwygiwyd Atodlen 1 gan adran 38 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (p. 33), gan adran 105(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glan a’r Amgylchedd 2005 (p.16), a chan O.S. 2011/1043, a 2015/664.

(2)

2003 p.33. Diwygiwyd adrannau 11 a 12 gan O.S. 2011/2499.

(4)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“DLlC 2006”) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) (“DCE 1972”) mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw. Mae paragraff 28(1) o Atodlen 11 i DLlC 2006 yn darparu bod dynodiadau a wnaed o dan adran 2(2) o DCE 1972 yn rhinwedd adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) sydd mewn grym yn union cyn cychwyn y diddymiad o’r is-adran honno gan DLlC 2006 yn parhau i gael effaith ar ôl cychwyn y diddymiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 59(1) o DLlC 2006.

(5)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(7)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

OJ Rhif L 184, 11.7.2015, t.13.

(10)

Amnewidiwyd rheoliad 2(1)(a) gan O.S. 2015/1417 (Cy. 141).

(11)

O.S. 2010/675, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1417 (Cy. 141). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2011/988 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/755 ac 2014/656.