xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu drwy Orchymyn eithriadau i’r hyn a olygir wrth “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”.

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 19(4) a (5) o’r Mesur. Mae’n diwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Gorchymyn 2010”) i estyn yr amgylchiadau pan fydd person, y byddai ei weithgarwch fel arall yn dod o fewn y diffiniad o “gwarchod plant” neu “gofal dydd i blant”, wedi ei eithrio o’r diffiniad hwnnw ac felly nad yw’n ofynnol iddo gofrestru.

Mae erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i erthyglau 2 ac 8 o Orchymyn 2010.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn eithrio darpariaeth gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed o’r gofyniad i gofrestru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.Gellir cael copi oddi wrth Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.