Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 98 (Cy. 47)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 19(4) a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1).

Yn unol ag adran 74(5) o’r Mesur, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad cyn iddo gael ei wneud.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2016;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010; ac

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(2).

Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

3.  Yn adran 19 o’r Mesur (ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”)—

(a)yn is-adran (2), yn lle “wyth” rhodder “ddeuddeng”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “wyth” rhodder “ddeuddeng”.

Diwygio’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007

4.  Yn erthygl 5(3)(b) (gofal plant cymwys) o’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007(3) yn lle “wyth mlwydd oed” rhodder “deuddeng oed”.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

5.  Yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(4) yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”.

Darpariaeth drosiannol

Gwarchodwyr plant

6.  Mae’r darpariaethau yn erthyglau 7 i 9 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru’n warchodwr plant yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2 o’r Mesur.

Cofrestru

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sydd wedi ei gofrestru’n warchodwr plant i blant o dan wyth oed i gael ei drin ar y dyddiad trosglwyddo ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi gwneud cais i gofrestru i ofalu am blant o dan ddeuddeng oed a bod y cais hwnnw wedi ei ganiatáu.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson a oedd, cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi gofyn i Weinidogion Cymru ganslo ei gofrestriad yn warchodwr plant o dan Ran 2 o’r Mesur.

Amodau cofrestru

8.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn darparu gwasanaeth gwarchod plant o dan amgylchiadau a fyddai, pe bai’n cael ei ddarparu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn groes i amodau cofrestru’r person hwnnw a osodwyd o dan adran 29 o’r Mesur oherwydd effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn.

(2Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru i amrywio amodau cofrestru cyn y dyddiad trosglwyddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais hwnnw o fewn cyfnod o bum mis i’r dyddiad trosglwyddo.

(3Yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)—

(a)nid yw person sydd wedi cyflwyno cais i amrywio amodau cofrestru yn agored i’w erlyn o dan adran 29(4) o’r Mesur pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn;

(b)nid yw adran 31(2)(b) o’r Mesur yn gymwys pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn.

Ceisiadau i gofrestru: ceisiadau nad ydynt wedi eu penderfynu

9.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gwneud cais i gofrestru’n warchodwr plant ond nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais y person.

(2Mae gan gais a wneir cyn y dyddiad trosglwyddo yr un effaith â chais a wneir ar y dyddiad trosglwyddo.

Darparwyr gofal dydd

10.  Mae’r darpariaethau yn erthyglau 11 i 13 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gofal dydd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2 o’r Mesur.

Cofrestru

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gofal dydd i blant o dan wyth oed i gael ei drin ar y dyddiad trosglwyddo ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi gwneud cais i gofrestru i ddarparu gofal i blant o dan ddeuddeng oed a bod y cais hwnnw wedi ei ganiatáu.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson a oedd, cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi gofyn i Weinidogion Cymru ganslo ei gofrestriad yn ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.

Amodau cofrestru

12.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn darparu gofal dydd i blant o dan amgylchiadau a fyddai, pe bai’n cael ei ddarparu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn groes i amodau cofrestru’r darparwr gofal dydd hwnnw a osodwyd o dan adran 29 o’r Mesur oherwydd effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn.

(2Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru i amrywio amodau cofrestru cyn y dyddiad trosglwyddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais hwnnw o fewn cyfnod o bum mis i’r dyddiad trosglwyddo.

(3Yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)—

(a)nid yw person sydd wedi cyflwyno cais i amrywio amodau cofrestru yn agored i’w erlyn o dan adran 29 o’r Mesur pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn; a

(b)nid yw adran 31(2)(b) o’r Mesur yn gymwys pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn.

Ceisiadau i gofrestru: ceisiadau nad ydynt wedi eu penderfynu

13.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gwneud cais i gofrestru’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur ond nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais y person.

(2Mae gan gais a wneir cyn y dyddiad trosglwyddo yr un effaith â chais a wneir ar y dyddiad trosglwyddo.

Atal dros dro: gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd

14.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—

(a)yn cael ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 40 o Reoliadau 2010;

(b)yn cael ei atal dros dro yn wirfoddol o dan reoliad 46 o Reoliadau 2010.

(2Nid yw gweithredu erthyglau 7(1) a 11(1) yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar atal cofrestriad person dros dro.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhaid i berson sy’n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy’n darparu gofal dydd i blant o dan wyth oed fod wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, a wneir o dan adran 19(4) o’r Mesur, yn diwygio adran 19 o’r Mesur i estyn y gofyniad i gofrestru i bersonau sy’n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy’n darparu gofal dydd i blant o dan ddeuddeng oed. Mae hefyd yn gwneud diwygiad au canlyniadol.

Mae erthyglau 7 a 11 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod person sydd wedi ei gofrestru yn union cyn 1 Ebrill 2016 i ofalu am blant o dan wyth oed neu i ddarparu gofal iddynt i gael ei drin ar 1 Ebrill 2016 ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei gofrestru i ofalu am blant o dan ddeuddeng oed neu i ddarparu gofal iddynt.

Mae erthyglau 8 a 12 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yn torri ei amodau cofrestru o ganlyniad i estyn cofrestriad.

O dan erthyglau 9 ac 13 o’r Gorchymyn hwn, mae ceisiadau i gofrestru y mae Gweinidogion Cymru yn eu cael cyn 1 Ebrill 2016 i gael eu trin fel pe baent wedi eu cael ar 1 Ebrill 2016.

Mae erthygl 14 yn darparu nad yw estyn cofrestriad yn erthygl 3 yn effeithio ar atal cofrestriad person dros dro.

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill