- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(1), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.
(2) Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.
13. Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd nad yw’n llai nag 1.5 gwaith yr isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
14. Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
15.—(1) Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.50 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy o dan erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ar gyfer yr wythnos honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £4.82 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy o dan erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.
(3) Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.
(4) Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.
16. Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—
(a)lwfans cŵn o £7.72 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn;
(b)lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i ddwy waith y gyfradd goramser fesul awr a nodir yn erthygl 13 o’r Gorchymyn hwn;
(c)lwfans gwaith nos o £1.46 am bob awr o waith nos; a
(d)grant geni a mabwysiadu o £60.72 am bob plentyn.
17.—(1) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—
(a)unrhyw ffioedd am y cwrs; a
(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.
(2) Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd 1 gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd 2 feddu arnynt.
(3) Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys