Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf Safonau Gofal”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cysyniad newydd o “gwasanaethau rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf.

Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru (wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol), gan bennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu. Cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth”.

Rhaid i’r cais i gofrestru bennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy. Rhaid i’r cais i gofrestru hefyd ddynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod yr unigolyn yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol a’i fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol.

Yn unol â’r pwerau yn adran 27 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig, gan gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu.

Yn unol â’r pwerau yn adran 28 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer troseddau os bydd darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol yn methu â chydymffurfio â gofynion penodedig.

Mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ynghylch sut y caiff darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig) ac mae adran 29 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i’r canllawiau hyn.

Yn ogystal â gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gofynion ar bersonau eraill: ar y “person a benodir” os bydd y darparwr gwasanaeth yn mynd yn ansolfent ac ar gynrychiolwyr personol yr ymadawedig os bydd darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn marw.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau. Yn benodol, mae’r diffiniad o “y gwasanaeth” yn golygu, mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, fod cyfeiriad at “y gwasanaeth” yn gyfeiriad at y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodol; mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, mae cyfeiriad at “y gwasanaeth” yn gyfeiriad at y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn cwmpasu eithriadau. Mae’r rheoliadau yn Rhan 2 wedi eu gwneud o dan y pwerau yn adran 2(3) o’r Ddeddf sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1 i’r Ddeddf (sy’n nodi diffiniadau gwasanaethau rheoleiddiedig), i gael eu trin yn wasanaethau rheoleiddiedig. Mae rheoliadau 2 a 4 yn nodi’r sefyllfaoedd pan na fo’r ddarpariaeth o lety i gael ei thrin yn wasanaeth cartref gofal neu’n wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd yn y drefn honno. Mae rheoliad 3 yn nodi’r sefyllfaoedd pan na fo’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i gael ei thrin yn wasanaeth cymorth cartref.

Mae Rhan 3 yn cwmpasu gofynion cyffredinol ar y darparwr gwasanaeth o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, y trefniadau ar gyfer monitro a gwella, y cymorth sydd i gael ei ddarparu i’r unigolyn cyfrifol, y camau sydd i gael eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth a’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.

Mae Rhan 4 yn cwmpasu’r gofynion o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn i’r darparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Ni chaiff darparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth oni bai ei fod yn gyntaf wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae rheoliad 14 yn nodi’r camau y mae rhaid iddynt gael eu cymryd a’r materion y mae rhaid iddynt gael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwn. Pan na fo cynllun gofal a chymorth awdurdod lleol yn ei le, mae’r camau sydd i gael eu cymryd yn cynnwys cynnal asesiad o anghenion yr unigolyn.

Mae Rhan 5 yn cwmpasu’r gofynion o ran y camau sydd i gael eu cymryd unwaith y bydd y darparwr gwasanaeth wedi cytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Cyn i ddarpariaeth o’r fath gychwyn, rhaid i’r darparwr lunio cynllun personol cychwynnol sydd, ymhlith pethau eraill, yn nodi sut y bydd anghenion yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd. O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth gychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal asesiad manwl o sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau ac mae’r asesiad hwn wedyn yn sbarduno adolygiad o’r cynllun personol cychwynnol, a fydd fel arfer yn arwain at lunio cynllun mwy cynhwysfawr.

Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu cynlluniau personol a chadw a rhannu cofnodion o’r cynllun personol.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â’r gofynion o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth. Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r wybodaeth hon fod ar ffurf canllaw ysgrifenedig ac yn nodi gofynion manwl am y canllaw, gan gynnwys ei gynnwys a’i fformat. Mae rhagor o fanylion am yr wybodaeth y disgwylir i’r canllaw ei chynnwys fel arfer i’w cael yn y canllawiau a ddyroddir o dan adran 29 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 7 yn cynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cyffredinol yn ogystal â gofynion mwy manwl yn ymwneud â pharhad gofal, darparu gwybodaeth, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn a thrin unigolion â pharch a sensitifrwydd.

Mae Rhan 8 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas â sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu ac mewn perthynas â’r defnydd priodol o reolaeth ac ataliaeth, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i gael eu cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth.

Mae Rhan 9 yn nodi gofynion ychwanegol o ran safonau gofal a chymorth nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety wedi ei ddarparu. Mae hyn pan fo’r gwasanaeth rheoleiddiedig yn wasanaeth cartref gofal, yn wasanaeth llety diogel neu’n wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd. Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â threfniadau i unigolion gael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill a, phan fo llety yn cael ei ddarparu i blant, â dynodi gweithiwr cyswllt.

Mae Rhan 10 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff ynghyd â gofynion penodol o ran defnyddio nyrsys cofrestredig i weithio mewn gwasanaeth cartref gofal o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 10 yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a fyddai’n cynnwys staff asiantaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth benodol a dogfennau penodol fod ar gael, fel y’u nodir yn Atodlen 1. Rhaid i bersonau a gyflogir i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig fod wedi eu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, sef rheoleiddiwr y gweithlu, ond nid oes gofyniad mwyach, fel yr oedd o dan y Ddeddf Safonau Gofal, i reolwyr gael eu cofrestru â Gweinidogion Cymru, fel y rheoleiddiwr gwasanaethau. Rhaid i gategorïau penodol o bersonau a gyflogir i weithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig penodol sy’n darparu llety i blant hefyd fod wedi eu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i ddechrau eu cyflogaeth.

Ymhlith gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 10 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd yn sail dros achos disgyblu.

Mae Rhan 11 yn cynnwys gofynion penodol sy’n gymwys i ddarparwyr mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref. Mae hyn yn cynnwys gofyniad bod “amserlen ymweliadau” yn cael ei llunio sy’n amlinellu’r amser a ganiateir ar gyfer pob ymweliad a’r amser a ganiateir ar gyfer teithio rhwng pob ymweliad. Mae gofyniad hefyd i’r darparwr gynnig dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantu.

Mae Rhan 12 yn cwmpasu gofynion o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar. Nid yw’r gofynion o ran mangreoedd yn rheoliadau 44 i 46 ond yn gymwys pan fo llety wedi ei ddarparu, tra bo’r gofynion yn rheoliad 47 yn gymwys ym mhob achos.

Mae’r gofynion yn Rhan 12 yn gymwys i bob darparwr gwasanaethau cartref gofal, gwasanaethau llety diogel neu wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd. Yn benodol, mae rheoliadau 45 a 46 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas ag ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir, ar gyfer oedolion a phlant, yn y drefn honno.

Mae Rhan 13 yn nodi gofynion ychwanegol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ond dim ond os yw’r mangreoedd sydd i gael eu defnyddio ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o dri chategori: adeilad newydd neu adeilad sydd wedi cael ei addasu; estyniad i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth presennol; adeilad a oedd yn cael ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru gan ddarparwr gwasanaeth arall ond sydd heb ei feddiannu ar adeg cofrestriad y darparwr gwasanaeth.

Mae’r gofynion ychwanegol yn Rhan 13 yn nodi safonau amgylcheddol mwy penodol, gan gynnwys safonau o ran ystafelloedd ymolchi en-suite, maint ystafelloedd a faint o le cymunedol sydd ar gael.

Mae Rhan 14 yn nodi gofynion o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau. Bydd y gofynion hyn yn gymwys i bob gwasanaeth rheoleiddiedig, pa un a yw’n rhoi llety ai peidio.

Mae Rhan 15 yn cynnwys gofynion amrywiol ar ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys gofynion o ran cadw cofnodion a gwneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ac i gyrff eraill. Mae Atodlen 2 yn nodi’r cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw ac mae Atodlen 3 yn nodi’r hysbysiadau penodol y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud.

Mae Rhan 15 yn cynnwys gofynion hysbysu penodol sy’n gymwys i wasanaethau llety diogel a gwasanaethau cartrefi gofal sy’n darparu llety i blant.

Mae Rhan 15 hefyd yn cynnwys gofynion ar y darparwr gwasanaeth i gael polisi cwyno a pholisi chwythu’r chwiban yn eu lle.

Mae Rhannau 16 i 20 yn cynnwys y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol. Mae’r rheoliadau yn y Rhannau hyn wedi eu gwneud o dan adran 28 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 16 yn nodi’r gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau y caiff y gwasanaeth ei reoli’n effeithiol. Mae dyletswydd gyffredinol ar yr unigolyn cyfrifol i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth (rheoliad 66) ac mae arno ddyletswyddau penodol i benodi person addas i reoli’r gwasanaeth (rheoliadau 67 ac 68), i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth pan fo’r rheolwr yn absennol (rheoliad 72) ac i ymweld â’r mannau lle y darperir y gwasanaeth (rheoliad 73).

Mae Rhan 17 yn cynnwys gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Drwy osod y gofynion hyn ar yr unigolyn cyfrifol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uchel yn y sefydliad yn atebol am ansawdd a chydymffurfedd y gwasanaeth. Mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd adnoddau (rheoliad 74) ac ar faterion eraill (rheoliad 75). Mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion ac eraill er mwyn i’w safbwyntiau ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth (rheoliad 76).

Mae Rhan 18 yn nodi’r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion eraill, gan gynnwys gofynion o ran hysbysu am ddigwyddiadau a chwynion (rheoliad 77) a chadw cofnodion (rheoliad 78). Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr yn cael eu cadw’n gyfredol (rheoliad 79).

Mae Rhan 19 yn nodi’r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir, gan gynnwys gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 20 yn nodi gofynion eraill ar yr unigolyn cyfrifol, gan gynnwys gofynion i wneud hysbysiadau penodol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a gynhwysir yn Atodlen 4.

Mae Rhan 21 yn ymdrin â throseddau. Mae rheoliad 85 wedi ei wneud o dan y pwerau yn adran 45 o’r Ddeddf ac yn darparu bod methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mae amod pellach sy’n gymwys yn achos methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion penodol. Yn yr achosion hyn, mae’r rheoliad yn darparu nad yw hon ond yn drosedd os yw methu â chydymffurfio yn arwain at wneud unigolion yn agored i niwed y gellir ei osgoi, neu’n agored i risg sylweddol o niwed o’r fath neu’n agored i golli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi.

Mae rheoliad 86 yn darparu ei bod yn drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 46 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 22 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn ansolfent neu pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod dyletswyddau hysbysu penodol ar y person a benodir (yn achos ansolfedd) neu ar y cynrychiolwyr personol (yn achos marwolaeth darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn). Mae rheoliad 88 yn galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth ac mae’r Ddeddf wedi ei haddasu fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru a gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man lle y darperir y gwasanaeth.

Mae Rhan 23 (rheoliad 89) yn pennu’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion cymhwystra adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 21(5) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill