Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 12Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Gofyniad cyffredinol

43.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Mangreoedd – gwasanaethau llety yn unig

44.—(1Nid yw’r gofynion yn y rheoliad hwn ond yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod dyluniad ffisegol, cynllun a lleoliad y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn addas i—

(a)cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben;

(b)diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

(c)cefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

(3Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion paragraffau (4) i (6) o’r rheoliad hwn.

(4Rhaid i’r fangre—

(a)bod yn hygyrch ac wedi ei goleuo, ei gwresogi a’i hawyru’n ddigonol;

(b)bod yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig;

(c)bod wedi ei dodrefnu a’i chyfarparu’n addas;

(d)bod o adeiladwaith cadarn ac wedi ei chadw mewn cyflwr strwythurol da yn allanol ac yn fewnol;

(e)bod wedi ei ffitio a’i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu anghenion unigolion;

(f)bod wedi ei threfnu fel bod y cyfarpar a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth wedi ei leoli’n briodol;

(g)bod yn rhydd rhag peryglon i iechyd a diogelwch unigolion ac unrhyw bersonau eraill a all wynebu risg, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol;

(h)bod wedi ei chynnal a’i chadw’n briodol;

(i)bod wedi ei chadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y caiff ei defnyddio.

(5Rhaid i’r fangre gael ystafelloedd gwely sydd—

(a)yn cynnwys cyfleusterau priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu) sy’n meddiannu’r ystafell wely;

(b)o faint digonol, gan roi sylw i—

(i)a yw’r ystafell yn cael ei rhannu neu’n ystafell meddiannaeth sengl;

(ii)y cynllun a’r dodrefn;

(iii)y cyfarpar sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(iv)nifer y staff sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(c)yn gyfforddus ar gyfer yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell wedi ei rhannu):

(d)yn rhoi rhyddid symud a phreifatrwydd i’r unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu).

(6Rhaid i’r fangre gael lle eistedd, hamdden a bwyta a ddarperir ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun a rhaid i unrhyw le o’r fath fod—

(a)yn addas ac yn ddigonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben;

(b)wedi ei lleoli er mwyn galluogi pob person sy’n defnyddio’r lle i gael mynediad iddo yn hawdd ac yn ddiogel.

(7Rhaid i unrhyw le cymunedol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth fod yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy’n briodol i amgylchiadau’r unigolion.

(8Rhaid i gyfleusterau addas gael eu darparu er mwyn i unigolion gwrdd ag ymwelwyr yn breifat mewn lle sydd ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun.

(9Rhaid i’r fangre gael toiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd sydd—

(a)o nifer digonol ac o fath addas i ddiwallu anghenion yr unigolion;

(b)wedi eu cyfarparu’n briodol;

(c)wedi eu lleoli er mwyn galluogi pob person i gael mynediad iddynt yn hawdd ac yn ddiogel.

(10Rhaid i’r fangre gael tiroedd allanol sy’n hygyrch ac sy’n addas ac sy’n ddiogel i unigolion eu defnyddio a rhaid iddynt gael eu cynnal a’u cadw’n briodol.

(11Rhaid i’r fangre gael cyfleusterau addas ar gyfer staff y mae rhaid iddynt gynnwys—

(a)cyfleusterau storio addas, a

(b)pan fo’n briodol, llety cysgu a chyfleusterau newid addas.

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion

45.—(1Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n oedolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob oedolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys naill ai—

(a)os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, neu

(b)os yw paragraff (3) yn gymwys.

(2Yr amodau yw—

(a)bod oedolyn yn cytuno i rannu ystafell ag oedolyn arall;

(b)bod rhannu ystafell yn gyson â llesiant y ddau oedolyn;

(c)bod cynlluniau personol y ddau oedolyn wedi cael eu hadolygu a’u diwygio yn ôl yr angen;

(d)nad yw nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)roedd y gwasanaeth cartref gofal wedi ei gofrestru fel cartref gofal o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)roedd nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar yr adeg berthnasol yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth ar yr adeg berthnasol;

(c)roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.

(4Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf yn ddarparwr y gwasanaeth cartref gofal.

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – plant

46.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu—

(a)gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n blant, neu

(b)gwasanaeth llety diogel.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei letya mewn ystafell sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y llety yn cael ei ddarparu mewn gwasanaeth cartref gofal a oedd wedi ei gofrestru fel cartref plant o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000,

(b)bod y llety a ddarperir wedi ei feddiannu ar yr adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf,

(c)bod y plentyn yn rhannu ystafell â dim mwy nag un plentyn arall,

(d)(ac eithrio yn achos brodyr neu chwiorydd) nad yw’r plentyn arall o’r rhyw arall neu o oedran sylweddol gwahanol iddo, ac

(e)y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant y plentyn, y darperir ar ei gyfer yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn ac y cytunir arno pryd bynnag y bo’n ymarferol â’r plentyn.

Mangreoedd – pob gwasanaeth

47.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y fangre a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)goruchwylio staff;

(b)storio cofnodion yn ddiogel.

Cyfleusterau a chyfarpar

48.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth—

(a)yn addas ac yn ddiogel at y diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio;

(b)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;

(c)wedi eu cynnal a’u cadw’n briodol;

(d)wedi eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y cânt eu defnyddio;

(e)wedi eu storio’n briodol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill