- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
49.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety a bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2). Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys os yw’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.
(2) Y categorïau yw—
Categori A: Mae’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi cael ei addasu at ddiben darparu’r gwasanaeth, ac, yn y naill achos neu’r llall, nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety.
Categori B: Mae’r fangre yn estyniad i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben darparu’r gwasanaeth mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth.
Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall.
(3) Os yw’r Rhan hon yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadau 50 i 54.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.
50. Rhaid i bob ystafell wely a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael ystafell ymolchi en-suite sy’n cynnwys basn golchi dwylo, toiled a chawod hygyrch.
51.—(1) Rhaid i bob ystafell a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael o leiaf 12 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r person sy’n byw yn yr ystafell ddefnyddio cadair olwyn yn barhaol ac yn gyson oherwydd natur ei anabledd.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ystafell wely yn cael ei rhannu.
(4) Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 13.5 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.
(5) Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 16 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.
52. Rhaid i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(6) fod o leiaf—
(a)4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;
(b)5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
53. Rhaid i’r tiroedd allanol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(10)—
(a)bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,
(b)bod â digon o seddi addas, ac
(c)wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd â namau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.
54. Pan fo’r llety a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth ar fwy nag un llawr a bod hyn yn gyson â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i lifft i deithwyr fod ar gael.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys