- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
66. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 64, 72 a 73.
67.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(d)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac
(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;
(b)bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn dim mwy na dau leoliad neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dwy ardal;
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth;
(d)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(e)bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac
(f)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 34(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
68.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 35(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
69.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—
(a)yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau i gael caniatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a
(b)yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni o ran y trefniadau rheoli arfaethedig—
(i)na fyddant yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a
(ii)y byddant yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.
70. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth o—
(a)enw’r person a benodir, a
(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
71.—(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau o—
(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y person a benodir, a
(b)y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
(2) Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu o—
(a)enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y darparwr gwasanaeth, a
(b)y dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.
72.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.
(2) Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
73.—(1) Yn achos gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a
(b)cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.
(2) Yn achos unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig eraill(2), rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ym mhob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ohono neu mewn perthynas ag ef, a
(b)cwrdd ag unigolion y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ym mhob man o’r fath, ohono neu mewn perthynas ag ef.
(3) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.
Gweler Atodlen 1 i’r Ddeddf i gael darpariaeth bellach ynghylch ystyr gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.
Gweler adran 2(1) o’r Ddeddf ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi eu cynnwys o fewn y diffiniad o “gwasanaeth rheoleiddiedig”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys