xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
7.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i gael ei wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.
(6) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—
(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau,
(b)yr unigolion,
(c)yr awdurdod lleoli (pan fo’n berthnasol), a
(d)unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
8.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
(a)unigolion,
(b)unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,
(c)yn achos unigolyn sy’n blentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal, yr awdurdod lleoli,
(d)comisiynwyr gwasanaethau, ac
(e)staff,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a
(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 80(4).
9.—(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—
(a)yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 16 i 20, rhaid i’r darparwr—
(a)cymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a
(b)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.
(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.
(3) Yn ystod unrhyw adeg pan fo’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(4) Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.
11.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.
12.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 5, rheoliad 14)
Diogelu (gweler Rhan 8, rheoliad 27)
Cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler Rhan 8, rheoliad 28)
Defnyddio rheolaeth neu ataliaeth (gweler Rhan 8, rheoliad 29)
Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 36)
Disgyblu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 39)
Rheoli heintiau (gweler Rhan 14, rheoliad 56)
Meddyginiaeth (gweler Rhan 14, rheoliad 58)
Cwynion (gweler Rhan 15, rheoliad 64)
Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 15, rheoliad 65)
(2) Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar atal bwlio, gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio a gweithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd (gweler rheoliad 27(5)).
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth rheoleiddiedig a nodir yn y datganiad o ddiben.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) i (3)—
(a)yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,
(b)yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac
(c)yn cael eu cadw’n gyfredol.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.
13. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—
(a)ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth,
(b)ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny, ac
(c)yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.