Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

RHAN 9LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety yn cael ei ddarparu

Cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraillLL+C

33.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi trefniadau yn eu lle er mwyn i unigolion—

(a)cael eu cofrestru ag ymarferydd cyffredinol,

(b)cael eu rhoi o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig,

(c)gallu cael gafael ar driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd yn ôl yr angen, a

(d)cael eu cefnogi i gael gafael ar wasanaethau o’r fath.

(3Yn achos gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant neu yn achos gwasanaeth llety diogel, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddynodi aelod o staff i fod yn “gweithiwr cyswllt” ar gyfer pob plentyn a rhaid iddo sicrhau—

(a)bod gweithiwr cyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy’n ymwneud ag ystyried cynnydd addysgol y plentyn, pa un a yw’n cael ei gynnal o dan reoliadau a wneir o dan adran 102 o Ddeddf 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 neu fel arall;

(b)bod gweithiwr cyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy’n ymwneud ag ystyried unrhyw agwedd ar iechyd plentyn, pa un a yw’n cael ei gynnal o dan reoliadau a wneir o dan adran 102 o Ddeddf 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 neu fel arall.

(4Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “gweithiwr cyswllt” yw aelod o staff gwasanaeth cartref gofal ar gyfer plant sydd ar lefel briodol uchel a chanddo gyfrifoldeb penodol am amddiffyn a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol ac am gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 33 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)