Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gwasanaethau cartrefi gofalLL+C

2.—(1Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—

(a)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—

(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

(b)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—

(i)yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(ii)mewn ymddiriedolaeth GIG;

(iii)mewn Bwrdd Iechyd Lleol.

(d)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—

(i)gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu

(ii)gan brifysgol.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.

At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1);

(e)[F1y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan foʼr gofal a ddarperir yn gyfystyr â gwarchod plant o fewn ystyr adran 19(2), neu ofal dydd o fewn ystyr adran 19(3), o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ond nid ywʼr eithriad hwn yn gymwys—]

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—

(i)mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);

(ii)yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.

(f)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os [F2darperir gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl] ;

(g)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;

(h)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 1952(2);

(i)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant F3...at ddibenion—

(i)gwyliau;

(ii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—

(i)mewn unrhyw achos [F4pan fo gofal yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl oni bai bod y darparwr gwasanaeth yn gyntaf wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y trefniadau] ;

(ii)os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oed[F5;]

[F6(j)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, i un plentyn neu i grŵp o frodyr a chwiorydd gan berson yng nghartref y person hwnnw ei hunan a phan na fo gofal a llety yn cael eu darparu gan y person hwnnw am gyfanswm o fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis[F7;]]

F8(k). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F9(l)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion mewn gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol.]

[F10(2) At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

(3) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

[F11(4) Yn is-baragraff (1)(j) oʼr rheoliad hwn, mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd.]]

[F12(5) At ddibenion paragraff (1)(l) o’r rheoliad hwn—

ystyr “gofal canolraddol” (“intermediate care”) yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn am gyfnod cyfyngedig at ddiben hybu gallu’r oedolyn i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun drwy—

(a)

osgoi ei dderbyn i ysbyty yn ddiangen,

(b)

lleihau hyd unrhyw dderbyniad i’r ysbyty drwy alluogi ei ryddhau yn amserol,

(c)

galluogi ei adferiad ar ôl ei ryddhau o’r ysbyty, neu

(d)

atal neu ohirio’i dderbyn i wasanaeth cartref gofal;

ystyr “gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol” (“local authority intermediate care service”) yw gwasanaeth sy’n darparu gofal canolraddol—

(a)

a ddarperir gan awdurdod lleol i oedolyn yn unol â’i ddyletswyddau yn Rhan 2 neu 4 o Ddeddf 2014,

(b)

pan fo’r llety a ddefnyddir at ddibenion y gofal canolraddol wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, ac

(c)

pan fo unrhyw ofal a chymorth wedi ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref y mae’r awdurdod lleol wedi ei gofrestru i’w ddarparu.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)