- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
42.—(1) Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnig i weithiwr gofal cartref y dewis o barhau i gael ei gyflogi o dan y naill neu’r llall o’r mathau a ganlyn o drefniant contractiol—
(a)contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos o leiaf yn gyfwerth â nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol;
(b)contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos yn llai na nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol.
Ond nid yw’r gofyniad hwn yn atal y darparwr gwasanaeth rhag cyflogi gweithiwr gofal cartref ar unrhyw fath arall o drefniant contractiol y cytunwyd arno rhwng y darparwr a’r gweithiwr, gan gynnwys contract oriau heb eu gwarantu pellach.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)bod y gweithiwr gofal cartref wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract oriau heb eu gwarantu ar gyfer y cyfnod cymhwysol,
(b)bod y gweithiwr gofal cartref wedi gweithio oriau rheolaidd yn ystod y tri mis cyn diwedd y cyfnod cymhwysol,
(c)bod y darparwr wedi penderfynu bod angen o hyd i’r oriau gael eu gweithio ar sail barhaus, a
(d)bod y gweithiwr gofal cartref wedi perfformio’n foddhaol yn ystod y cyfnod cymhwysol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “contract oriau heb eu gwarantu” (“non-guaranteed hours contract”) yw contract cyflogaeth neu gontract gweithiwr arall—
y mae’r ymgymeriad i wneud gwaith neu i gyflawni gwasanaethau odano yn ymgymeriad i wneud hynny ar yr amod bod y cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i’r gweithiwr, a
nad oes unrhyw sicrwydd odano y bydd unrhyw waith o’r fath neu unrhyw wasanaethau o’r fath yn cael eu gwneud ar gael i’r gweithiwr.
At ddiben y diffiniad hwn, mae cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i weithiwr os yw’r cyflogwr yn gofyn i’r gweithiwr wneud y gwaith neu gyflawni’r gwasanaethau neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny;
“y cyfnod cymhwysol” (“the qualifying period”) yw—
mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi dechrau cyflogaeth ar ôl y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis o ddyddiad dechrau’r gyflogaeth;
mewn unrhyw achos pan ddechreuodd y gweithiwr gyflogaeth cyn y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis sy’n dod i ben gyda’r dyddiad cychwyn;
mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi, yn flaenorol, gael cynnig y dewis o drefniant contractiol arall yn unol â gofynion y rheoliad hwn ac wedi dewis aros ar gontract oriau heb eu gwarantu, y cyfnod o dri mis o ddyddiad gwneud unrhyw ddewis o’r fath.
At ddibenion y diffiniad hwn—
“y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r rheoliad hwn i rym;
“y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad sy’n dod dri mis cyn y dyddiad cychwyn;
ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr ond nid yw’n cynnwys person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae i’r termau “contract cyflogaeth”, “cyflogwr”, “cyflogai” a “cyflogaeth” yr un ystyron â “contract of employment”, “employer”, “employee” ac “employment” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 ac mae i’r termau “a gyflogir”, “cael ei gyflogi” ac “wedi ei gyflogi” yr un ystyr ag “employed” yn yr adran honno o’r Ddeddf honno;
(b)mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, ac eithrio nad yw person a gymerir ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau yn weithiwr at ddiben y rheoliad hwn. Mae unrhyw gyfeiriad at gontract gweithiwr i gael ei ddehongli yn unol â hynny.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys