xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 22LL+CDarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Marwolaeth darparwr gwasanaethLL+C

88.—(1Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)yn ddi-oed, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’u bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.

(3Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig yr oedd y darparwr gwasanaeth sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu ar adeg ei farwolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 88 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)