- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 5, Arbedion, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “cyfnod trosiannol” (“transition period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2);
mae i “darpariaethau Rhan 2” (“the Part 2 provisions”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(4);
ystyr “darparwr DSG” (“CSA provider”) yw person sydd, yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel person sy’n cynnal sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
mae i “gwasanaeth trosiannol” (“transition service”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3;
mae i “prif ddiwrnod penodedig” (“principal appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2(4);
ystyr “sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol” (“relevant establishment or agency”) yw sefydliad neu asiantaeth o un o’r disgrifiadau a ganlyn—
cartref gofal,
cartref plant,
cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid,
canolfan breswyl i deuluoedd, neu
asiantaeth gofal cartref.
(3) Yn y Gorchymyn hwn mae i’r termau “cartref gofal”, “cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid”, “canolfan breswyl i deuluoedd” ac “asiantaeth gofal cartref” yr ystyron a roddir i “children’s home”, “children’s home providing accommodation for the purpose of restricting liberty”, “residential family centre” a “domiciliary care agency” yn adrannau 1 a 4 o Ddeddf 2000 ac mae i’r term “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn adran 3 o Ddeddf 2000 ac eithrio pan fydd yn ymddangos yn y term “gwasanaeth cartref gofal” sydd â’r ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys