xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Y diwrnod penodedig i adran 6 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau a nodir ym mharagraff (2) yw 1 Chwefror 2018.
(2) Mae adran 6 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn i’r graddau y mae’n gymwys i berson sy’n dymuno darparu un o’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau (a) i (c) ac (h) o adran 2(1) o’r Ddeddf.
(3) Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 2 Ebrill 2018—
(a)adran 1,
(b)adran 2, ac eithrio paragraffau (d) i (g) o isadran (1), a pharagraffau 1 i 3 ac 8 o Atodlen 1,
(c)adrannau 3 i 5,
(d)adrannau 7 i 31,
(e)penodau 3, 4 a 5 o Ran 1,
(f)adran 58,
(g)pennod 8 o Ran 1,
(h)adran 185 a Rhan 1 o Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Cyfeirir at 2 Ebrill 2018 yn y Gorchymyn hwn fel y prif ddiwrnod penodedig.