xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr DSG mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol o dan Ddeddf 2000 yn ystod y cyfnod trosiannol, mae gofynion adran 7(1) a (2) o’r Ddeddf mewn perthynas â’r cais wedi eu haddasu fel nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais mewn cysylltiad â’r man sy’n ddarostyngedig i’r mesurau gorfodi hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi ei chwblhau.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—
(a)terfyn unrhyw amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan adran 17 o Ddeddf 2000;
(b)terfyn unrhyw amser a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 21 o Ddeddf 2000; neu
(c)y cyfnod hyd nes y penderfynir ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddir y gorau iddi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—
(a)dyroddi hysbysiad o gynnig o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;
(b)atal dros dro o dan adran 14A o Ddeddf 2000;
(c)cais i ganslo ar frys o dan adran 20A o Ddeddf 2000.