Dadebru
31.—(1) Rhaid i’r person cofrestredig lunio a gweithredu datganiad ysgrifenedig, ar sail canllawiau cenedlaethol cyfredol ar gyfer dadebru, o’r polisïau sydd i gael eu cymhwyso a’r gweithdrefnau sydd i gael eu dilyn yn y practis deintyddol preifat mewn perthynas â dadebru cleifion a rhaid iddo adolygu’r datganiad hwnnw bob blwyddyn.
(2) Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)ar gael ar gais i bob claf; a
(b)yn cael eu cyfathrebu i, a’u deall gan, unrhyw berson sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a all fod yn rhan o benderfyniadau am ddadebru claf.
(3) Rhaid i’r person cofrestredig hefyd—
(a)sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a all fod yn rhan o benderfyniadau am ddadebru claf, neu a all fod yn rhan o ddadebru cleifion, wedi ei hyfforddi’n addas; a
(b)sicrhau bod yr holl gyfarpar a meddyginiaethau y mae eu hangen i ddadebru cleifion ar gael ar y fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat.