Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 6LL+CBENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau bywLL+C

41.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw’n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.

(2Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano.

F1(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.

(6Mae paragraff (5) yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac

(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(7Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

(8Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 41 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

CyffredinolLL+C

42.  Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio, yn unol â rheoliad 43;

(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011, yn unol â rheoliad 44;

(c)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol, yn unol â rheoliad 45.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 42 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudioLL+C

43.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £5,358 [F2ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F3£5,684]];

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £9,697 [F4ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F5£10,288]];

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £8,253 [F6ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F7£8,756]];

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £8,253 [F8ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F9£8,756]];

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,922 [F10ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F11£7,344]];

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £4,851 [F12ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F13£5,147]];

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £8,830 [F14ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F15£9,368]];

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £7,179 [F16ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F17£7,616]];

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £7,179 [F18ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F19£7,616]];

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,412 [F20ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn [F21£6,803]];

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy’n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 36, dim.

Diwygiadau Testunol

F3Swm in Rhl. 43(2)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(a)(i)

F5Swm in Rhl. 43(2)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(a)(ii)

F7Swm in Rhl. 43(2)(iii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(a)(iii)

F9Swm in Rhl. 43(2)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(a)(iv)

F11Swm in Rhl. 43(2)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(a)(v)

F13Swm in Rhl. 43(3)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(b)(i)

F15Swm in Rhl. 43(3)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(b)(ii)

F17Swm in Rhl. 43(3)(iii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(b)(iii)

F19Swm in Rhl. 43(3)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(b)(iv)

F21Swm in Rhl. 43(3)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 24(b)(v)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 43 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2011LL+C

44.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £5,358;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £9,697;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £8,253;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £8,253;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,922;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £4,851;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £8,830;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £7,179;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £7,179;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,412;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 37 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae’r swm y mae hwnnw’n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,688;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 37, dim.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 44 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngolLL+C

45.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(3), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F22£2,699;]

(ii)yng nghategori 2, yn [F23£5,058;]

(iii)yng nghategori 3, yn [F24£3,598;]

(iv)yng nghategori 4, yn [F25£3,598;]

(v)yng nghategori 5, yn [F26£3,598.]

(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(6), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F27£2,699;]

(ii)yng nghategori 2, yn [F28£5,058;]

(iii)yng nghategori 3, yn [F29£4,304;]

(iv)yng nghategori 4, yn [F30£4,304;]

(v)yng nghategori 5, yn [F31£3,598.]

(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—

X i fyfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F32£4,263;]

(ii)yng nghategori 2, yn [F33£7,716;]

(iii)yng nghategori 3, yn [F34£6,567;]

(iv)yng nghategori 4, yn [F35£6,567;]

(v)yng nghategori 5, yn [F36£5,508 ];

Y yn ddim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(3), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F37£2,052;]

(ii)yng nghategori 2, yn [F38£3,869;]

(iii)yng nghategori 3, yn [F39£2,804;]

(iv)yng nghategori 4, yn [F40£2,804;]

(v)yng nghategori 5, yn [F41£2,804.]

(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(6), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F42£2,052;]

(ii)yng nghategori 2, yn [F43£3,869;]

(iii)yng nghategori 3, yn [F44£3,146;]

(iv)yng nghategori 4, yn [F45£3,146;]

(v)yng nghategori 5, yn [F46£2,804.]

(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—

X i fyfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F47£3,860;]

(ii)yng nghategori 2, yn [F48£7,026;]

(iii)yng nghategori 3, yn [F49£5,712;]

(iv)yng nghategori 4, yn [F50£5,712;]

(v)yng nghategori 5, yn [F51£5,102;]

Y yn ddim.

Diwygiadau Testunol

F22Swm in Rhl. 45(1)(a)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(a)(i)

F23Swm in Rhl. 45(1)(a)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(a)(ii)

F25Swm in Rhl. 45(1)(a)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(a)(iv)

F26Swm in Rhl. 45(1)(a)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(a)(v)

F27Swm in Rhl. 45(1)(b)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(b)(i)

F28Swm in Rhl. 45(1)(b)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(b)(ii)

F30Swm in Rhl. 45(1)(b)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(b)(iv)

F31Swm in Rhl. 45(1)(b)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(b)(v)

F32Swm in Rhl. 45(1)(c)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(c)(i)

F33Swm in Rhl. 45(1)(c)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(c)(ii)

F35Swm in Rhl. 45(1)(c)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(c)(iv)

F36Swm in Rhl. 45(1)(c)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(c)(v)

F37Swm in Rhl. 45(2)(a)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(d)(i)

F38Swm in Rhl. 45(2)(a)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(d)(ii)

F40Swm in Rhl. 45(2)(a)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(d)(iv)

F41Swm in Rhl. 45(2)(a)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(d)(v)

F42Swm in Rhl. 45(2)(b)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(e)(i)

F43Swm in Rhl. 45(2)(b)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(e)(ii)

F45Swm in Rhl. 45(2)(b)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(e)(iv)

F46Swm in Rhl. 45(2)(b)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(e)(v)

F47Swm in Rhl. 45(2)(c)(i) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(f)(i)

F48Swm in Rhl. 45(2)(c)(ii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(f)(ii)

F50Swm in Rhl. 45(2)(c)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(f)(iv)

F51Swm in Rhl. 45(2)(c)(v) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 25(f)(v)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 45 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieniLL+C

46.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai’n briodol i swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 46 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciadau at gostau byw sy’n daladwy ar gyfer tri chwarter o’r flwyddyn academaiddLL+C

47.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 49, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(2Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 47 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod o fewn mwy nag un categoriLL+C

48.  Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau yn rheoliad 52 yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;

(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)y categori sy’n gymwys i chwarter yw—

(i)y categori y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn am y cyfnod hwy neu hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â’r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 48 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddLL+C

49.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â’r chwarteri hynny o’r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n [F52dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

[F53(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]

(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy’n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Diwygiadau Testunol

F53Rhl. 49(2)(ba) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 26

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 49 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Codiadau yn yr uchafswmLL+C

50.—(1Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn [F54rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44] am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:

(a)yng nghategori 1, [F55£84;]

(b)yng nghategori 2, [F56£162;]

(c)yng nghategori 3, [F57£177;]

(d)yng nghategori 4, [F58£177;]

(e)yng nghategori 5, [F59£127.]

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn [F60rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44] am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.

Diwygiadau Testunol

F55Swm in Rhl. 50(1)(a) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 27(a)

F56Swm in Rhl. 50(1)(b) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 27(b)

F57Swm in Rhl. 50(1)(c) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 27(c)

F58Swm in Rhl. 50(1)(d) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 27(d)

F59Swm in Rhl. 50(1)(e) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 27(e)

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 50 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Didynnu o fenthyciadau at gostau bywLL+C

51.—(1Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn yn unol â rheoliad 56.

(2Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 51 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Rhan 6LL+C

52.  Yn y Rhan hon—

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw’r myfyriwr, yn ddarostyngedig i reoliad 46, yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a’r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o’r canlynol—

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r profiad gwaith hwnnw neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw’r myfyriwr, fel rhan o’i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 a’i fod yn mynychu’r Athrofa;

(e)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;

(f)“myfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn” (“eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;

(g)rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;

(h)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(i)“myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—

(i)nad yw’n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3) neu reoliad 23(6); neu

(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;

(j)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw’r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 52 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill