- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
18.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) yn gymwys, £1,725; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(3) Os oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£4,030 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) yn gymwys, £2,005; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,
(4) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012.
(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys