Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2011LL+C

18.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) yn gymwys, £1,725; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3Os oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£4,030 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) yn gymwys, £2,005; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,

(4Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012.

(7Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 18 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)