Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012

19.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan gorff a restrir yn rheoliad 5(1)(e), neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

(a)yn flwyddyn bwrsari;

(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; neu

(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 16(7), 16(8), 16(9) neu 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£4,046; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(4Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(7) neu 16(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,940; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(5Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 16(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£900; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(6Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 16(10) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£675; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(7Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

(8Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

(9At ddiben y rheoliad hwn, mae cwrs i gael ei drin fel pe bai’n cael ei ddarparu gan neu ar ran sefydliad addysgol cydnabyddedig—

(a)os oedd sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw;

(b)pan fo’r sefydliad hwnnw wedi peidio â bod yn sefydliad addysgol cydnabyddedig; ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru wedi dynodi’r cwrs hwnnw o dan reoliad 5(8).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill