- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
30.—(1) Yn rheoliadau 26 i 29—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (5), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw’n blentyn sy’n ddibynnol arno;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;
(f)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 26 i 29) yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;
(h)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;
(i)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);
(j)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)priod myfyriwr cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(k)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
(l)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;
(m)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr cymwys yn dod o’i mewn i’w asesu mewn perthynas â hi;
(n)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys);
(o)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—
(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(1), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(2) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;
(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
(iii)pan fo deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,
ac eithrio nad ystyrir yr incwm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) a delir i barti arall—
(a)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—
(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
(b)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;
(c)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
(2) Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(3) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(4) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.
(3) At ddibenion rheoliad 28
(a)nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a
(b)rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
(4) At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—
(a)priod i bartner myfyriwr cymwys;
(b)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;
(c)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;
(d)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—
(a)yn ddibynnol ar—
(i)y myfyriwr cymwys yn unig; neu
(ii)partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond
(b)yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—
(a)yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(b)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.
(7) Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 26(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 29(2)) wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan ddiystyru—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(6);
(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(7) neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(8);
(f)unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu, yn ôl y digwydd, adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(9);
(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(10), neu adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;
(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(11); ac
(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—
(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).
(8) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth yr aed iddi cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys wedi ei ostwng—
(a)o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os aed i’r rhwymedigaeth yn rhesymol, ym marn Gweinidogion Cymru; neu
(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi mynd i rwymedigaeth lai.
(9) At ddibenion paragraff (7), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.
(10) Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 5.
(11) Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 5 (ac eithrio is-baragraffau (8), (9) neu (10) o baragraff 5) gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys.
2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.
2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.
1973 p. 18, diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16 a chan Ddeddf Achosion Priodasol a Theulu 1984 (p. 42), adran 21.
2004 p. 33, diwygiwyd Atodlen 5 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), adran 17 ac Atodlen 11.
1992 p. 4, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 38. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2016/413 (Cy. 131). Diwygiwyd adran 4 gan O.S. 2010/1158 ac O.S. 2013/160 (C. 9).
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2.
Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C o ran Cymru, ac mae O.S. 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/ 824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys