Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 17/02/2017.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
61.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf, neu pan fyddant wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i’r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol onid yw’r eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn gymwys.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae’r eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.
(6) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.
(7) Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i’w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o’r fath neu’n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent yn ystyried eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.
(9) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.
(10) Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (9), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.
(11) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(12) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai’n briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.
(13) Wrth benderfynu pa un a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (12) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr cymwys, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol y byddai peidio â thalu i’r myfyriwr cymwys yn ei achosi.
(14) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn analluog i fod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 diwrnod.
(15) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yn llai na’r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall—
(a)rhaid iddynt ddidynnu o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i’w dalu y cyfryw swm sydd ei angen er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn benthyg swm mwy at gostau byw na’r swm y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael;
(b)os yw’r swm sydd i’w dynnu i ffwrdd yn fwy na’r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i’w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;
(c)gellir adennill unrhyw ordaliad yn unol â rheoliad 62.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 61 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys