Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 17/02/2017.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
94.—(1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliadau 96 i 98, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn a ganlyn—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 91;
(b)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 92; ac
(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 93.
(2) Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—
A yw cyfanswm—
(a)incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach;
(b)incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac
(c)yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a
B yw—
(a)£1,159 pan nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;
(b)£3,473 pan nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo un plentyn dibynnol;
(c)£4,632—
(i)pan nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu
(ii)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo un plentyn dibynnol;
(d)£5,797 pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(5) Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy nag A neu’n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w chael yn daladwy.
(7) Os yw (A - B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w cael neu’n fwy na’r cyfanswm hwnnw, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(8) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
(9) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
(10) Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu’n fwy na hynny ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.
(11) Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;
(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
(c)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;
(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 82(4)(a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i).
(12) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn y chwarter perthnasol—
(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b)pwy yw’r dibynyddion hynny;
(c)a yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel rhiant unigol.
(13) Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(14) Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans hwnnw am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(15) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —
(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
(16) Caniateir gwneud didyniad yn unol â rheoliadau 96 a 97 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys