Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 24/07/2022.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
95.—(1) Yn rheoliadau 89 i 94—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr rhan-amser cymwys ac eithrio plentyn y myfyriwr rhan-amser cymwys, partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gynbartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto sy’n ddibynnol arno;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw, ym mhob achos, yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(f)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 89 i 94) mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol;
(h)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;
(i)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff [F1(7)];
(j)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(k)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
(l)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;
(m)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr rhan-amser cymwys i’w asesu mewn perthynas â hi;
(n)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr rhan-amser cymwys);
(o)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—
(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(1), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(2) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;
(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,
ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ac a delir i barti arall, yn cael ei ddiystyru—
(a)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—
(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(b)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;
(c)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.
(2) Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.
(3) At ddibenion rheoliad 92—
(a)nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a
(b)mae person i’w drin fel partner pe byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person yn byw gydag ef yn arferol yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.
(4) At ddibenion penderfynu a yw person yn gynbartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr “partner” (“partner”), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw—
(a)priod i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;
(b)partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;
(c)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn briod i B;
(d)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn bartner sifil i B.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—
(a)yn ddibynnol—
(i)ar y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; neu
(ii)ar bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; ond
(b)yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—
(a)yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(b)yn gynbartner i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys.
(7) Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 91(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 94(2) am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan ddiystyru—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(4);
(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(5) neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(f)unrhyw daliad i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn ôl y digwydd, adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989;
(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(6) neu adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;
(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(7); ac
(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—
(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).
(8) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rhwymedigaeth yr aed iddi cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei ostwng—
(a)o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os aed i’r rhwymedigaeth yn rhesymol, ym marn Gweinidogion Cymru; neu
(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi mynd i rwymedigaeth lai.
(9) At ddibenion paragraff (6), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, mae’r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn dibynnol.
(10) Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 6.
(11) Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 6 (ac eithrio is-baragraffau (8), (9) neu (10) o baragraff 4) gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr rhan-amser cymwys.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 95(1)(i) wedi ei amnewid (12.3.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/191), rhl. 1(2), Atod. 6 para. 14 (ynghyd â rhl. 2(2)(3))
Gwybodaeth Cychwyn
2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), a Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2).
2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.
1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 41 . Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2(1).
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys