Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – cyfrifo’r cyfraniadLL+C
96.—(1) Cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd a’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r flwyddyn honno yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 6, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr rhan-amser cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.