- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 54
1. Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â’r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
2. Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw’r person yn bodloni’r amodau a ganlyn—
(a)bod y person yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;
(b)bod gan y person radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(c)bod y person yn cymryd cwrs cymhwysol a bod y person—
(i)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y person yn parhau i ddilyn y cwrs ar ôl 31 Awst 2011; neu
(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011;
(d)bod y person yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu’n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;
(e)bod y person o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac
(f)nad oes yr un o’r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys i’r person.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
3. Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n dod o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw’n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid trin myfyriwr cymwys anabl sy’n ymgymryd â chwrs cymhwysol yn y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn bresennol arno oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd, fel pe bai’n bresennol ar y cwrs cymhwysol at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
5. Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b)nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
6. Y digwyddiadau yw—
(a)bod y myfyriwr, neu briod, partner sifil neu riant (fel y’i diffinnir ym mharagraff 1 o Atodlen 1) y myfyriwr, yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
7. Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw’n flwyddyn academaidd safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
8. Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, at ddiben penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â’r gyntaf o’r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â’r blynyddoedd canlynol o’r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
9. Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o’r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw’n ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs ac a fyddai’n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy’n hafal i’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan y myfyriwr cymhwysol i’w goleg neu i’w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(2) Os yw’r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
11. Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i’r cwrs arall ar gais y myfyriwr cymhwysol oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (c) os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo iddo, os bodlonir yr amodau ym mharagraff 12 ac os na fydd gan y myfyriwr cymhwysol hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno;
(c)os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo ar ôl i’r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae’n trosglwyddo iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg—
(a)cyn eu bod wedi cael cais am daliad mewn ysgrifen, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru, oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol; a
(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Mae’n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu’r neuadd breifat berthnasol, oni fyddant yn penderfynu, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.
(6) Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yr un ystyr ag yn rheoliad 63.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—
(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi’r gorau i fynychu’r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs; a
(b)os bydd y coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl y digwydd, yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg bod yn rhaid i’r myfyriwr cymhwysol roi iddynt rif ei yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o’r benthyciad i’r myfyriwr cymhwysol cyn eu bod wedi eu bodloni bod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.
(3) Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymhwysol os ydynt wedi eu bodloni oherwydd amgylchiadau eithriadol y byddai’n briodol gwneud taliad o’r fath heb fod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â’r amod a osodwyd o dan is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am wybodaeth y maent yn ystyried bod ei hangen i adennill benthyciad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymhwysol ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.
(4) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i’r person ddarparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i’r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
15. Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys