- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
4.—(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy partner (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—
(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;
(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu
(c)o dan is-baragraff (2),
beidio â chael eu gwneud na’u caniatáu.
(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) swm cyfanredol unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw rai o’r paragraffau a ganlyn—
(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;
(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn academaidd o’i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi, drwy gymryd mai incwm gweddilliol A yw cyfartaledd incwm gweddilliol A am bob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n digwydd ynddynt.
(5) Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—
(a)nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
(b)nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu
(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.
(7) Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd gyfartalog a gyhoeddir gan CThEM ar gyfer y flwyddyn galendr a ddaw i ben cyn diwedd y flwyddyn ariannol gynharach.
(8) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir incwm y partner i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.
(9) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1), ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol pan nad oedd y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu.
(10) Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys