
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Apelau o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio
9. Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig o apêl a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 208(2) o’r Ddeddf Gynllunio—
(a)dangos seiliau’r apêl();
(b)nodi’r ffeithiau y mae’r apêl yn seiliedig arnynt();
(c)cael ei anfon gyda datganiad achos llawn sy’n cynnwys—
(i)datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
(ii)copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth.
Yn ôl i’r brig