xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Apelau o dan adran 195 o Ddeddf 1990

6.  Ar ôl erthygl 26A mewnosoder—

Apelau o dan adran 195 o Ddeddf 1990

26B.(1) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath) roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—

(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, ynghyd â—

(i)y cyfryw rai o’r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r apêl; a

(ii)datganiad achos llawn;

(b)cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol gopi o’r ffurflen a grybwyllir yn is-baragraff (a), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (2)(ch) a chopi o’r datganiad achos llawn.

(2) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) yw—

(a)y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol a arweiniodd at yr apêl;

(b)yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;

(c)yr holl ohebiaeth gyda’r awdurdod mewn perthynas â’r cais;

(ch)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill mewn perthynas â’r cais nad oedd wedi eu hanfon at yr awdurdod;

(d)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un.

(3) At ddibenion adran 195(1B) o Ddeddf 1990, y cyfnod amser a ragnodir y mae’n rhaid i apêl a wneir o dan adran 195(1)(a) o’r Ddeddf honno gael ei gwneud ynddo yw 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad sy’n arwain at yr apêl.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl—

(a)o dan adran 195(1)(a) o Ddeddf 1990 os na chyflwynir y dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod amser a ragnodir ym mharagraff (3);

(b)o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990 os na chyflwynir y dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) i Weinidogion Cymru.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan i’w defnyddio at ba bynnag ddibenion a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru—

(a)sy’n ymwneud ag apelau o dan adran 195 o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a

(b)y gellir eu cyflawni yn electronig.

(6) Pan fo person yn rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.