Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017

Darpariaethau trosiannol ac arbed

8.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd mewn perthynas â chais a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym—

(a)bod y cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu

(b)bod apêl yn cael ei wneud.

(2Mae Gorchymyn 2012 yn gymwys i’r cais hwnnw neu’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 2 i 7 wedi eu gwneud.