- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried, yn llwyr neu’n rhannol, ar sail gwrandawiad.
(2) Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu ymchwiliad; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail gwrandawiad;
i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.
27.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall yn lle’r person a benodwyd yn flaenorol ac nad yw’n ymarferol rhoi hysbysiad ynghylch y penodiad cyn y cynhelir y gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal y gwrandawiad, ar gychwyn y gwrandawiad hwnnw, gyhoeddi ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.
28. Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 6 o Atodlen 6 i’r Ddeddf Gynllunio, paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu baragraff 6 o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad ynghylch enw’r asesydd ac ynghylch y materion y mae’r asesydd i gynghori’r person penodedig yn eu cylch.
29.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru bennu dyddiad y gwrandawiad, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod yn ddim hwyrach na 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), rhaid i ddyddiad y gwrandawiad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, gan roi sylw i natur yr apêl, ei bod yn rhesymol gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd y cynhelir rhannau gwahanol o’r gwrandawiad mewn lleoliadau gwahanol.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ar gyfer y gwrandawiad o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw i—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.
(5) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (4) nodi’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad ac enw’r person penodedig.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, pa un a yw’r dyddiad fel y’i hamrywir o fewn y cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1) ai peidio, ac mae paragraff (4) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad fel y mae’n gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio amser neu leoliad y gwrandawiad a rhaid iddynt roi’r fath hysbysiad o unrhyw amrywiad yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
(8) Pan dynnir apêl yn ôl ar ôl rhoi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad, rhaid i Weinidogion Cymru roi’r fath hysbysiad ynghylch canslo’r gwrandawiad fel yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
30.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn——
(a)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gosod hysbysiad ynghylch y gwrandawiad, a chynnal yr hysbysiad hwnnw—
(i)mewn man amlwg, neu mor agos ag y bo’n rhesymol ymarferol at y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;
(ii)mewn un neu ragor o fannau lle y gosodir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
(b)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, cyhoeddi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad drwy hysbyseb leol yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
(c)anfon hysbysiad ynghylch y gwrandawiad at y fath bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau a bennir ganddynt, o fewn y fath gyfnod a bennir ganddynt.
(2) Pan fo cyfarwyddyd o dan reoliad 29(3) wedi ei roi, mae paragraff (1) yn cael effaith, gan roi—
(a)yn lle cyfeiriadau at y gwrandawiad, gyfeiriadau at y rhan o’r gwrandawiad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd; a
(b)yn lle cyfeiriadau at yr apêl, gyfeiriadau at y rhan honno o’r apêl sydd i fod yn destun y rhan honno o’r gwrandawiad.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a osodir o dan baragraff (1)(a) fod yn weladwy yn rhwydd i’r cyhoedd, ac yn ddarllenadwy yn rhwydd ganddynt hwy.
(4) Pan fo’r hysbysiad yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn cychwyn y gwrandawiad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol neu heb unrhyw fwriad ganddynt hwy i wneud hynny, nid yw’r awdurdod cynllunio lleol am y rheswm hwnnw i’w drin fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (3) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, a gosod un arall yn ei le os oes angen.
(5) Rhaid i hysbysiad ynghylch gwrandawiad a osodir, a gyhoeddir neu a anfonir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad ac o’r pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu’r apêl;
(b)disgrifiad ysgrifenedig o’r tir sy’n ddigonol i nodi’n fras ei leoliad;
(c)disgrifiad cryno o destun yr apêl; a
(d)manylion ynghylch lle a phryd y gellir gweld copïau o’r cais sy’n destun yr apêl, yr holiadur a gwblhawyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a’r holl ddogfennau eraill a anfonir gan yr awdurdod ac a gaiff eu copïo iddo o dan y Rheoliadau hyn.
31.—(1) Y personau a gaiff gymryd rhan mewn gwrandawiad yw—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn gwrandawiad.
(3) Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
32.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, nid yw’n ofynnol rhoi unrhyw hysbysiad pellach.
33.—(1) Y person penodedig sy’n llywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo bennu’r weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.
(2) Mae gwrandawiad i fod ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, ac ni chaniateir croesholi.
(3) Pan fo’r person penodedig yn ystyried bod croesholi yn ofynnol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r apelydd) pa un a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn lle hynny.
(4) Ar ddechrau’r gwrandawiad rhaid i’r person penodedig nodi’r materion y mae’r person penodedig yn gofyn am sylwadau arnynt yn y gwrandawiad.
(5) Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn gwrandawiad alw am dystiolaeth.
(6) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw am dystiolaeth.
(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi tystiolaeth neu gyflwyno tystiolaeth neu wrthod caniatáu cyflwyno unrhyw fater arall y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(8) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(9) Caiff y person penodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad neu sy’n bresennol yno ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a
(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)dim ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig.
(10) Caiff unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ymadael â gwrandawiad gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(11) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a ddaw i law’r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau’r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.
(12) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i wneud cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(13) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau llafar yn y gwrandawiad.
(14) Caiff unrhyw berson sydd â’r hawl i wneud sylwadau llafar neu y caniateir iddo wneud sylwadau llafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan berson arall.
34.—(1) Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.
(2) Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—
(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau hyn; a
(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys