- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw brosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, oni bai ei fod yn esempt yn unol â pharagraff (2) neu (3).
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i brosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro os yw—
(a)yn brosiect a grybwyllir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999(1);
(b)yn ddatblygiad y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(2) yn gymwys iddo;
(c)yn cyflawni gwaith gwella gan gorff draenio o fewn ystyr Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999(3);
(d)yn brosiect perthnasol o fewn ystyr rheoliad 3(2) a (3) o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003(4);
(e)yn tynnu gwrych ymaith fel y caniateir gan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwrychoedd 1997(5); neu
(f)yn waith cyfyngedig, gan gynnwys codi unrhyw adeilad neu ffens, neu godi unrhyw waith arall, y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(6).
(3) Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo, yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, ei fod yn esempt rhag rheoliadau 4 i 33 o’r Rheoliadau hyn.
(4) Yn achos prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu ei fod yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i’r graddau y sicrheir cydymffurfedd â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â’r prosiect y mae’r pŵer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt o dan baragraff (3) yn arferadwy.
(5) Pa fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu dyroddi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid iddynt—
(a)ystyried a fyddai unrhyw fath arall o asesiad o’r prosiect yn briodol; a
(b)tynnu sylw’r cyhoedd at—
(i)yr wybodaeth a ystyriwyd wrth ddyroddi’r cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud hynny, a
(ii)yr wybodaeth a gafwyd o unrhyw asesiad o’r prosiect o dan is-baragraff (a).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys