xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Rhaid i’r awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais ac (os o gwbl) y ffi a bennir, anfon at y ceisydd i gydnabod bod y cais wedi dod i law, a rhaid i’r gydnabyddiaeth gynnwys—
(a)y cyfeirnod a ddyrannwyd i’r cais; a
(b)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost i anfon gohebiaeth ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru iddynt.
(2) Caiff yr awdurdod cofrestru roi cyfarwyddyd i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy’n angenrheidiol i alluogi i’r cais gael ei ddyfarnu.
(3) Caiff yr awdurdod cofrestru bennu amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn.
(4) Os yw’r ceisydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn neu, pan fo’n gymwys, yn methu â chydymffurfio o fewn yr amser a bennwyd, caiff yr awdurdod cofrestru drin y cais fel petai wedi ei ollwng.