- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
12.—(1) Pan fo cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(1), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
(a)ei fod yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;
(b)bod y datblygiad dan sylw—
(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu
(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac
(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,
mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).
(2) Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu—
(a)yn achos ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2),
(b)yn achos ceisiadau dilynol, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6(3),
wneud cais am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(1).
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod cais a atgyfeiriwyd atynt i’w benderfynu yn gais AEA ond nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn dod gyda’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (3) o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.
(6) Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (3) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.
(7) Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (6), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran y cais.
(8) Pan—
(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3), a
(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 19(6),
rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.
Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, adran 32, Atodlen 7, paragraff 18; Deddf Seilwaith 2015 (p. 7), adran 30(1) ac Atodlen 4, Rhan 2, paragraffau 2 ac 11(a), a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 2. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys