Darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe byddai atgyfeiriad neu apêlLL+C
20.—(1) Pan fo ceisydd am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol, neu wybodaeth bellach, i’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn cysylltiad â’r cais hwnnw ac—
(a)mae’r cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol); neu
(b)mae’r ceisydd yn apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath),
rhaid i’r ceisydd ddarparu’r datganiad i Weinidogion Cymru a, phan fo’n berthnasol, yr wybodaeth bellach oni bai, yn achos cais sydd wedi ei atgyfeirio, bod yr awdurdod eisoes wedi gwneud hynny.
(2) Rhaid darparu’r datganiad a’r wybodaeth bellach a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 20 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)