- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
35. Mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraffau (2) a (3) yn darllen—
“(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad yn nodi’r canlynol mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli—
(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio a chyfeiriad Gweinidogion Cymru;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(d)bod copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;
(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(f)manylion gwefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;
(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;
(j)bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), pa un bynnag sydd ddiweddaraf; a
(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 32(4) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn y rheoliad hwnnw gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys