Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, Adran 65.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
65.—(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu, ond mae hynny’n ddarostyngedig i baragraffau [F1(2), (7) ac (8)] .
[F2(2) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith pan fo, cyn 16 Mai 2017—
(a)y ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu wedi gofyn am farn gwmpasu mewn cysylltiad â’r datblygiad; neu
(b)mewn cysylltiad â—
(i)gorchmynion datblygu lleol;
(ii)gorchmynion adran 97;
(iii)gorchmynion adran 102; neu
(iv)cam gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990,
yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd wedi llunio datganiad amgylcheddol neu farn gwmpasu neu wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu mewn cysylltiad â’r gorchymyn neu’r cam gweithredu hwnnw.]
(7) Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â—
(a)gofyniadau am farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio;
(b)barnau sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol; ac
(c)cyfarwyddydau sgrinio a wneir gan Weinidogion Cymru,
pan fo, cyn 16 Mai 2017, y fath ofyniadau wedi eu gwneud, neu pan fo’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) wedi cychwyn gwneud barnau sgrinio neu gyfarwyddydau sgrinio neu wedi cychwyn mabwysiadu barnau neu gyfarwyddydau o’r fath.
(8) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(1).
(9) Yn unol â hynny, nid yw’r Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn) yn gymwys mewn cysylltiad â datblygiad y mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith arno yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o baragraffau [F3(2), (7) ac (8)] .
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”), “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) a “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2016;
mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 55(1); ac
ystyr “Rheoliadau 2016” (“2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(2).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 65(1) wedi eu hamnewid (1.4.2019) gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/299), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F2Rhl. 65(2) wedi ei amnewid ar gyfer (1.4.2019) gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/299), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F3Geiriau yn rhl. 65(9) wedi eu hamnewid (1.4.2019) gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/299), rhlau. 1(2), 2(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 65 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
O.S. 2009/3342 (Cy. 293) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/755 (Cy. 90) ac O.S. 2016/58 (Cy. 28) gweler ar gyfer ceisiadau ROMP a wnaed cyn 15 Tachwedd 2000.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys