Ceisiadau dilynol pan ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol yn flaenorolLL+C
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—
(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;
(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a
(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a
(b)bod y cais gwreiddiol wedi ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger ei fron yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, rhaid iddo gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth yn ei benderfyniad ynglŷn â chydsyniad dilynol.
(3) Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol nad yw’r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd ger ei fron eisoes yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar y amgylchedd, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ceisio gwybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)