Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 19/11/2020

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 07/03/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1LL+CDisgrifiadau o ddatblygiad at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 1”

DehongliLL+C

Yn yr Atodlen hon—

nid yw “gorsaf bŵer niwclear” (“nuclear power station”) ac “adweithydd niwclear arall” (“other nuclear reactor”) yn cynnwys gosodiad o safle lle mae pob tanwydd niwclear a deunyddiau wedi eu halogi’n ymbelydrol wedi eu symud oddi yno’n barhaol; a rhaid peidio â thrin datblygiad at ddiben datgymalu neu ddadgomisiynu gorsaf bŵer niwclear neu adweithydd niwclear arall fel datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir ym mharagraff 2(b) yr Atodlen hon;

ystyr “gwibffordd” yw ffordd sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “express road” yng Nghytundeb Ewrop ar Briffyrdd Traffig Rhyngwladol, 15 Tachwedd 1975(1);

ystyr “maes awyr” (“airport”) yw maes awyr sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “airport” yng Nghonfensiwn Chicago 1944 yn sefydlu’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (Atodiad 14)(2).

Disgrifiadau o ddatblygiadLL+C

Cynnal datblygiad er mwyn darparu unrhyw rai o’r canlynol—

1.  Purfeydd olew crai (ac eithrio ymgymeriadau sy’n gweithgynhyrchu dim ond ireidiau o olew crai) a gosodiadau ar gyfer nwyeiddio a hylifo 500 tunnell neu fwy o lo neu olew siâl bitwminaidd y dydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.   LL+C

(a)Gorsafoedd pŵer thermal a gosodiadau ymlosgi eraill sy’n cynhyrchu 300 megawat o wres neu fwy; a

(b)Gorsafoedd pŵer niwclear ac adweithyddion niwclear eraill (ac eithrio gosodiadau ymchwil er mwyn cynhyrchu a thrawsnewid deunyddiau ymholltol a ffrwythlon, nad yw eu pŵer uchaf yn fwy na llwyth thermal parhaus o 1 cilowat).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.   LL+C

(a)Gosodiadau ar gyfer ailbrosesu tanwydd niwclear arbelydredig;

(b)Gosodiadau a gynlluniwyd—

(i)ar gyfer cynhyrchu neu gyfoethogi tanwydd niwclear;

(ii)ar gyfer prosesu tanwydd niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol lefel uchel;

(iii)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar danwydd niwclear arbelydredig;

(iv)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar wastraff ymbelydrol yn unig;

(v)ar gyfer storio (a gynllunnir am dros 10 mlynedd) tanwyddau niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol mewn safle gwahanol i’r safle lle eu cynhyrchir yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.   LL+C

(a)Gwaith integredig ar gyfer toddi cychwynnol haearn bwrw a dur;

(b)Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu metelau crai anfferrus o fwyn, crynodiadau neu ddeunyddiau crau eilaidd drwy brosesau metelegol, cemegol neu electrolytig.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Gosodiadau ar gyfer echdynnu asbestos a phrosesu a thrawsnewid asbestos a chynhyrchion sy’n cynnwys asbestos—LL+C

(a)ar gyfer cynhyrchion asbestos-sment, sy’n cynhyrchu mwy na 20,000 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn;

(b)ar gyfer deunydd ffrithiant, sy’n cynhyrchu mwy na 50 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn; ac

(c)ar gyfer defnydd arall o asbestos, sy’n defnyddio mwy na 200 tunnell y flwyddyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.  Gosodiadau cemegol integredig, hynny yw, gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sylweddau drwy ddefnyddio prosesau trawsnewid cemegol ar raddfa ddiwydiannol, lle y cyfosodir nifer o unedau a’u cysylltu’n weithredol â’i gilydd ac sydd—LL+C

(a)ar gyfer cynhyrchu cemegau organig sylfaenol;

(b)ar gyfer cynhyrchu cemegau anorganig sylfaenol;

(c)ar gyfer cynhyrchu gwrtaith y mae ffosfforws, nitrogen neu botasiwm yn sylfaen iddo (gwrteithiau syml neu gyfansawdd);

(d)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion iechyd planhigion sylfaenol a bywleiddiaid;

(e)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol drwy ddefnyddio proses gemegol neu fiolegol;

(f)ar gyfer cynhyrchu ffrwydron.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.   LL+C

(a)Adeiladu rheilffyrdd ar gyfer traffig rheilffordd pellter hir a meysydd awyr sydd â hyd rhedfa sylfaenol o 2,100 metr neu fwy;

(b)Adeiladu traffyrdd a gwibffyrdd;

(c)Adeiladu ffordd newydd o bedair lôn neu fwy, neu adlinio a/neu ledu ffordd bresennol o ddwy lôn neu lai er mwyn darparu pedair neu fwy o lonydd, pan fyddai ffordd newydd o’r fath, neu ran wedi ei hadlinio a/neu ei lledu o ffordd yn 10 cilometr neu fwy mewn hyd parhaus.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.   LL+C

(a)Dyfrffyrdd mewndirol a phorthladdoedd ar gyfer traffig dyfrffyrdd mewndirol sy’n caniatáu hynt llongau dros 1,350 tunnell;

(b)Porthladdoedd masnachu, pierau ar gyfer llwytho a dadlwytho sydd wedi eu cysylltu i dir a thu allan i borthladdoedd (ac eithrio pierau fferi) a all dderbyn llongau sydd dros 1,350 tunnell.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

9.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi, trin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn [F1Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,] o dan bennawd D9), neu dirlenwi gwastraff peryglus fel y’i diffinnir yn rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(3).LL+C

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 1 para. 9 wedi eu hamnewid (17.12.2018) gan Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 20(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

10.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi neu drin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn [F2Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,] o dan bennawd D9) gwastraff nad yw’n beryglus gyda chynhwysedd o dros 100 tunnell y dydd.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn Atod. 1 para. 10 wedi eu hamnewid (17.12.2018) gan Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 20(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

11.  Cynlluniau tynnu dŵr daear neu ail-lenwi dŵr daear artiffisial pan fo cyfaint blynyddol y dŵr a dynnir neu a ail-lenwir yn cyfateb i neu’n fwy na 10 miliwn metr ciwbig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

12.   LL+C

(a)Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan mai nod y trosglwyddiad yw atal prinder dŵr posibl a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn;

(b)Ym mhob achos arall, gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan fo llif cyfartalog aml-flynyddol y basn y tynnir y dŵr ohono yn fwy na 2,000 miliwn metr ciwbig y flwyddyn a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 5% o’r llif hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

13.  Gweithfeydd trin dŵr gwastraff gyda chynhwysedd sy’n fwy na chyfwerth â 150,000 o boblogaeth fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 pwynt (6) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC(4).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

14.  Echdynnu petrolewm a nwy naturiol at ddibenion masnachol pan fo’r swm a echdynnir yn fwy na 500 tunnell y dydd yn achos petrolewm a 500,000 metr ciwbig y dydd yn achos nwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

15.  Argloddiau a gosodiadau eraill a gynlluniwyd er mwyn dal dŵr yn ôl neu storio dŵr yn barhaol, pan fo swm newydd neu swm ychwanegol o ddŵr a ddelir yn ôl neu a gaiff ei storio yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

16.  Piblinellau sydd â diamedr o fwy na 800 milimetr a hyd o fwy na 40 cilometr:LL+C

  • ar gyfer cludo nwy, olew, cemegau, neu

  • ar gyfer cludo ffrwd carbon deuocsid er mwyn ei storio’n ddaearegol, gan gynnwys gorsafoedd atgyfnerthu cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

17.  Gosodiadau ar gyfer magu dofednod neu foch yn ddwys gyda mwy na—LL+C

(a)85,000 o leoedd ar gyfer brwyliaid neu 60,000 o leoedd ar gyfer ieir;

(b)3,000 o leoedd ar gyfer moch cynhyrchu (dros 30 kg); neu

(c)900 o leoedd ar gyfer hychod.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

18.  Gweithfeydd diwydiannol ar gyfer—LL+C

(a)cynhyrchu pwlp o goed neu ddeunyddiau ffibrog tebyg;

(b)cynhyrchu papur a bwrdd gyda’r lle i gynhyrchu dros 200 tunnell y dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

19.  Chwareli a chloddio glo brig pan fo arwyneb y safle yn fwy na 25 hectar, neu echdynnu mawn pan fo arwyneb y safle yn fwy na 150 hectar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

20.  Gosodiadau ar gyfer storio petroliwm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol gyda lle i 200,000 tunnell neu fwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

21.  Safleoedd storio yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 23 Ebrill 2009 ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol(5).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

22.  Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion eu storio’n ddaearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau a gynhwysir yn yr Atodlen hon, neu pan fo cyfanswm o 1.5 megaton neu fwy o garbon deuocsid y flwyddyn yn cael ei ddal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

23.  Unrhyw newid i ddatblygiad neu estyniad ohono a restrir yn yr Atodlen hon pan fo newid neu estyniad o’r fath ynddo’i hun yn bodloni trothwyon, os oes rhai, neu ddisgrifiad o ddatblygiad a nodir yn yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler Papur Gorchymyn 6993.

(2)

Gweler Papur Gorchymyn 6614.

(4)

O.J. Rhif L 135, 30.5.1991, t. 40.

(5)

O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill