xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r canlynol—
(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;
(b)digonedd cymharol, argaeledd, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol;
(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd a ganlyn—
(i)gwlypdiroedd, ardaloedd glannau afonydd, ac aberoedd afonydd;
(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;
(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)safleoedd Ewropeaidd ac ardaloedd eraill a ddosberthir neu a warchodir o dan ddeddfwriaeth genedlaethol;
(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i gyflawni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr Undeb ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;
(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;
(viii)tirweddau a safleoedd o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.