- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
5. Mae rheoliad 14 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—
14.—(1) Pan fo gorchymyn datblygu lleol arfaethedig yn ddatblygiad AEA, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddatgan ei farn ynghylch cwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).
(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol lunio—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad cryno o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a
(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r awdurdod cynllunio lleol ddymuno ei darparu neu eu cyflwyno.
(3) Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu barn gwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.
(4) Cyn mabwysiadu barn sgrinio rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth—
(a)yr wybodaeth a luniwyd gan yr awdurdod ynghylch y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);
(b)nodweddion penodol y datblygiad neilltuol;
(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a
(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad.
(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys