6. Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’n darparu—LL+C
“Cyfarwyddydau cwmpasu
15.—(1) Rhaid i ofyniad o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—
(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2)(a)(i) i (iii); a
(b)unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.
(3) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y daeth y gofyniad hwnnw i law neu’r fath gyfnod hwy sy’n rhesymol ofynnol.
(5) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)